Part of the debate – Senedd Cymru am 4:04 pm ar 21 Hydref 2020.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Ac a gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon a gyflwynwyd gan Alun heddiw? Roeddwn yn falch iawn o gyd-gyflwyno'r cynnig. Byddaf yn dod ag ychydig o ysgafnder, os gallaf, i fy sylwadau agoriadol. Pan ffoniodd Alun fi ynglŷn â'r ddadl hon yr oedd yn bwriadu ei chyflwyno a gofyn am fy nghefnogaeth fel un o'r Aelodau Ceidwadol, roeddwn yn sefyll ynghanol sied fuches eidion yn hel llwyth o wartheg o amgylch y sied, yn ceisio rhoi trefn arnynt. Os bydd unrhyw beth yn codi eich pwysedd gwaed, fel unrhyw un sy'n deall amaethyddiaeth, hel gwartheg sydd tua 600 neu 650kg o bwysau, a naw gwaith allan o 10, maent yn dod amdanoch—. Ac yna cewch alwad ffôn yn sydyn gydag Alun Davies yn ymddangos ar y sgrin, ac rydych chi'n dechrau meddwl nad yw hynny'n mynd i wneud unrhyw les o gwbl i'ch pwysedd gwaed, a dweud y gwir wrthych. Felly, rwy'n ddiolchgar, ond ni wnaeth ffonio ar yr amser gorau, ac efallai mai dyna pam roedd y sgwrs mor fyr, 'Iawn, Alun, fe'i gwnaf. Diolch yn fawr iawn.'
Ond yn y cyfamser, rwyf wedi dysgu llawer iawn am yr hyn y gallwn ei wneud fel deddfwrfa i geisio gwella canlyniadau i gleifion ac yn wir, i bobl sy'n mynd drwy'r union brofiad y tynnodd Alun Davies a Mick Antoniw sylw ato yn eu cyfraniadau heddiw. Yn anffodus, i Mick nid oedd y canlyniad cystal â chanlyniad Alun, a nododd y ddau a gymerodd ran yn y ddadl hon—Alun a Mick—mai dim ond 3 y cant o'r bobl sy'n cael profiad cardiaidd y tu allan i'r ysbyty sy'n goroesi hynny. Dyna 97 y cant o bobl nad ydynt yn goroesi'r profiad hwnnw. Dylai hynny, ynddo'i hun, ein hannog i gyd i ganolbwyntio ar yr hyn y gallwn ei wneud.
Er fy mod yn cytuno â'r Gweinidog fod llawer o waith da yn mynd rhagddo, yn enwedig rhai o'r rhaglenni sydd wedi'u cyflwyno—ac roedd y Gweinidog yn ddigon gonest i dynnu sylw at y ffordd nad oedd yn credu bod y cynllun a gyflwynwyd ganddo yn gynharach yn ystod tymor y Cynulliad hwn wedi symud mor gyflym ag y byddai wedi hoffi—lle mae pethau'n methu, fel y nodwyd yn sylwadau agoriadol Alun, mae'n bwysig ein bod yn ceisio troi at ddeddfwriaeth i geisio rhoi hawliau pwysig i bobl a fydd yn gwella'r profiad yn y pen draw, gobeithio, lle bynnag rydych yn byw yng Nghymru.
Amlygodd Rhun ap Iorwerth a Dai Lloyd a Suzy Davies yn eu cyfraniadau y meincnodau eraill y gallwn fesur ein hunain yn eu herbyn. Ac yn wir, cyfeiriodd y Gweinidog atynt hefyd. Pan edrychwch ar Ddenmarc, er enghraifft, a'r safon aur sy'n bodoli yn Nenmarc—. Rwy'n derbyn yr hyn a ddywedodd y Gweinidog; mwy na thebyg fod gwahaniaethau diwylliannol yn arbennig wedi sbarduno rhai o'r dangosyddion perfformiad sy'n dangos pa welliant y gallwch ei wneud pan fyddwch yn ei gael yn rhan annatod o gymdeithas, sgiliau achub bywyd. Ond i mi, sylw Dai Lloyd—ac mae'n debyg fod hyn wedi'i seilio ar ei brofiad meddygol—eu bod, wyddoch chi, yn Nenmarc, yn achub 200 o fywydau'r flwyddyn a mwy drwy gael y profiad hwnnw o achub bywydau yn eu cymdeithas fel norm, nid yw hynny'n rhywbeth y dylem edrych arno'n ysgafn, a dweud y gwir yn onest.
Y pwynt a wnaeth yr holl Aelodau a gyfrannodd yn y ddadl hon oedd yr ysbryd cymunedol gwych, yn arbennig, o ran gosod diffibrilwyr. Credaf i'r Gweinidog dynnu sylw at y ffaith bod bron i 6,000—credaf mai dyna'r ffigur y cyfeiriodd ato—wedi'u gosod bellach ledled Cymru. Rwyf fi, yn ardal fy nghartref yn y Rhws wedi cael y fraint a'r pleser o weithio gyda grwpiau cymunedol a chyfrannu at osod tri diffribiliwr yn ystod y 18 mis diwethaf yn yr ardal honno. Ond yn anffodus, byddai llawer o unigolion anwybodus heb wybod yn union ble mae'r diffibrilwyr hynny. Mae ymwybyddiaeth ac ymgyrchu o'r fath i sicrhau bod y diffibrilwyr, pan gânt eu gosod, yn cael eu gwasanaethu'n rheolaidd, yn elfen hanfodol o sicrhau bod pobl yn deall bod y diffibrilwyr hynny'n bodoli yn y gymuned y maent yn byw ynddi ac y gellir eu defnyddio.
Gwnaeth pob cyfrannwr unigol y pwynt am ddysgu'r sgiliau i ddefnyddio'r offer, oherwydd nid oes diben eu gosod os nad yw pobl yn teimlo'n ddigon hyderus i ddefnyddio'r diffibrilwyr. Rhaid imi fod yn onest fy hun: mae'n debyg, hyd yn oed ar ôl—fel y dywedodd Rhun ap Iorwerth—cynnal sesiynau yma yn y Cynulliad neu'n wir, yn ein swyddfeydd etholaethol neu ranbarthol, ni fyddwn o reidrwydd yn teimlo mor hyderus â hynny ynglŷn â defnyddio diffibriliwr. Ar ôl y ddadl hon heddiw, byddaf yn bendant yn gwneud yn siŵr fy mod yn gwella fy sgiliau yn hynny o beth, oherwydd pwy a ŵyr pryd y gallem fod yn cerdded yn y parc ac yn gweld yr hyn a ddigwyddodd i Alun Davies, er enghraifft, a gallu camu i mewn ac achub bywyd, gobeithio.
Rwy'n gobeithio y bydd aelodau meinciau cefn Llafur a holl aelodau'r pleidiau yma heddiw—boed yn Blaid Cymru, y Ceidwadwyr neu'r aelodau annibynnol—yn cytuno â'r cynnig sydd ar y papur trefn heddiw. Oherwydd mae'n sicr yn gynnig ar hyn o bryd. Deallaf bwynt y Gweinidog, pan ddywed y bydd y Llywodraeth yn ymatal. Ond rydym yn mynd i mewn i gyfnod etholiad, ac mae'n ddyletswydd ar Aelodau, os ydynt yn credu mewn gwella gwasanaethau cardiaidd ledled Cymru, eu bod yn rhoi pwysau ar eu pleidiau unigol i roi hyn yn eu maniffestos. Oherwydd cymryd y geiriau y mae pobl yn eu siarad yn y Siambr hon a'u gwireddu sy'n gwneud gwelliannau yn ein cymdeithas a'n cymunedau ledled Cymru.
Felly, rwy'n gobeithio y daw cefnogaeth o bob rhan o'r Siambr i gynnig Alun, a diolch iddo am y ffordd huawdl a gwybodus y cyflwynodd ei sylwadau agoriadol heddiw. Mae'n bleser ei weld ar y sgrin fel un o'r dim ond 3 y cant o unigolion—. Ac fe ailadroddaf fod—. Gallaf weld y Llywydd yn edrych arnaf gyda'r marciau coch—[Torri ar draws.] Ond gwnaf y pwynt hwn i'r holl Aelodau: dim ond 3 y cant o bobl sy'n goroesi profiad cardiaidd y tu allan i'r ysbyty. Mae hynny'n golygu nad yw 97 y cant yn goroesi. Dylai hynny, ynddo'i hun, wneud i bawb ohonom fod eisiau ymdrechu'n galetach i wneud y gwelliannau hynny, a thrwy bleidleisio dros y cynnig hwn y prynhawn yma, gallwn wneud y gwahaniaeth hwnnw. Diolch, Lywydd.