7. Dadl ar Ddeiseb P-05-1003: Mynnu Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol nawr ynghylch gwaredu mwd wedi'i halogi'n radiolegol yn nyfroedd Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:10 pm ar 21 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 4:10, 21 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd, ar ran y Pwyllgor Deisebau, am y cyfle i gyflwyno'r ddadl hon ar y ddeiseb yn galw am gynnal asesiad o'r effaith amgylcheddol i'r bwriad i waredu gwaddodion o'r tu allan i Hinkley Point i Fôr Hafren. Nawr, casglodd y ddeiseb hon dros 10,000 o lofnodion, ac nid oes angen imi wneud yr Aelodau'n ymwybodol o'r pryder a fynegwyd yn gyhoeddus am y mater hwn. Nid yw'r pryder hwnnw'n newydd, wrth gwrs. Mae'r ddeiseb hon yn dilyn un flaenoro, a gafodd ei hystyried yn fanwl gan ein pwyllgor a chafwyd dadl yn ei chylch yn 2018.

Bydd y gwaddod y bwriedir ei waredu yn cael ei garthu fel rhan o'r gwaith o adeiladu gorsaf bŵer niwclear newydd Hinkley Point C yng Ngwlad yr Haf. Gan fod y safle gwaredu enwebedig, a elwir yn Cardiff Grounds, yn nyfroedd Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n penderfynu ar y broses drwyddedu ar gyfer gwaredu. Mae hyn yn cynnwys penderfynu a oes angen asesiad o'r effaith amgylcheddol. Fodd bynnag, yn gynharach y mis hwn, cyhoeddodd EDF ei fod wedi gwneud penderfyniad ei hun i gynnal asesiad, gan achub y blaen ar y penderfyniad hwnnw. Nawr, rwyf am gydnabod y cam a gymerwyd gan EDF fel rhan o'r ddadl hon. Dywedant eu bod wedi gwneud hynny er mwyn rhoi sicrwydd pellach i'r cyhoedd bod yr holl bryderon wedi cael sylw.

Ar 12 Hydref, cadarnhaodd CNC yn ffurfiol fod angen asesiad o'r effaith amgylcheddol. Mae CNC hefyd wedi ceisio sicrhau bod pob cais am drwydded forol yn cael ei asesu'n drylwyr ac yn gadarn i ddiogelu pobl, a'r amgylchedd yn wir. Mae'r ffaith y bydd asesiad o'r effaith amgylcheddol yn cael ei wneud yn ateb y prif alwadau a wneir yn y ddeiseb, ac rwyf am groesawu'r ffaith y bydd hyn yn digwydd. Mae'n amlwg fod pryder yn dal i fodoli ymhlith rhai aelodau o'r cyhoedd am effeithiau posibl y gwaith hwn ar yr amgylchedd ac ar iechyd. Mae'r pryderon hyn yn ymwneud yn bennaf â chynnwys y gwaddod, yn sgil cynhyrchu pŵer niwclear yn Hinkley Point o'r blaen. Mae'n hanfodol, felly, fod y broses drwyddedu'n cael ei chynnal mewn ffordd agored a thryloyw. Dyna'r unig ffordd y gallwch dawelu meddyliau pobl mai dim ond os yw'n ddiogel gwneud hynny y caiff y gwaddod ei waredu.

Rwyf hefyd am gydnabod bod CNC ac EDF yn darparu diweddariadau cyhoeddus rheolaidd ar y broses hon, ac yn wir maent wedi sefydlu tudalen we benodol. Mynegodd y Pwyllgor Deisebau bryder ynglŷn â chyfathrebu cyhoeddus yn ystod y camau cynnar y tro diwethaf, ac rwy'n falch iawn o gydnabod bod gwelliannau wedi'u gwneud a bod pobl wedi cael eu clywed. Mae CNC hefyd wedi addo ymgynghori'n gyhoeddus ar y cais llawn am drwydded y mae'n disgwyl ei dderbyn yn gynnar y flwyddyn nesaf. Mae hyn i gyd i'w groesawu.

Ar gyfer rhan olaf yr araith hon, hoffwn gyfeirio at bryderon y deisebwyr ychydig yn fanylach. Mae llawer o'r rhain yn ymwneud â diogelwch y diwydiant ynni niwclear ynddo'i hun. Mae'n amlwg fod p'un a yw'r DU yn defnyddio cynhyrchiant pŵer niwclear ai peidio yn fater y tu hwnt i gwmpas y broses trwyddedu morol, ac yn wir y tu hwnt i bwerau Llywodraeth Cymru neu CNC. Fodd bynnag, mae gan y deisebwyr bryderon hefyd y gellir mynd i'r afael â hwy yma yng Nghymru drwy'r prosesau hyn. Yn bwysicaf oll, mae'n hanfodol fod profion a dadansoddiadau manwl yn cael eu cynnal ar y gwaddod hwn. Dyna'r unig ffordd o fod yn siŵr ei fod yn ddiogel i'w ollwng yn ôl i Fôr Hafren. Digonolrwydd samplu a phrofi oedd y prif faes a oedd yn peri pryder i'r Pwyllgor Deisebau y tro diwethaf, fel yr amlinellwyd yn ein hadroddiad yn 2018. Mae CNC wedi cymeradwyo cynllun samplu EDF y tro hwn, a bydd canlyniadau'r profion hynny'n hollbwysig wrth gwrs. Felly, gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu rhoi cadarnhad inni heddiw y bydd profion ar gyfer yr ystod lawn o ymbelydredd yn cael eu cynnal y tro hwn. Mae hefyd yn hanfodol fod canlyniadau'r profion a phroses yr asesiad o'r effaith amgylcheddol yn cael eu cyfleu'n agored ac yn dryloyw. Unwaith eto, dyna'r unig ffordd o gael cefnogaeth y cyhoedd ac iddynt gael yr hyder sydd ei angen arnynt ac y maent yn ei haeddu.

Y tu hwnt i'r brif alwad am asesiad o'r effaith amgylcheddol, mae'r ddeiseb hefyd yn rhoi gofynion manwl ynglŷn â'r hyn y dylai hynny ei olygu. Amlinellir proses yr asesiad o'r effaith amgylcheddol yn y gyfraith a rheoliadau, ond mae'n amlwg yn hanfodol y dylai gyflwyno asesiad llawn a chadarn o effeithiau a risgiau posibl gwaredu'r gwaddod yn y ffordd hon. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu ymateb i'r pwyntiau hyn heddiw a datgan hefyd ei hymrwymiad i geisio'r sicrwydd i'r cyhoedd y byddem i gyd yn hoffi ei weld ar y mater hwn rwy'n siŵr.

Edrychaf ymlaen yn awr at glywed cyfraniadau'r Aelodau eraill o'r Senedd hon yng ngweddill y ddadl. Diolch yn fawr.