Part of the debate – Senedd Cymru am 4:32 pm ar 21 Hydref 2020.
Diolch, Lywydd. Diolch yn fawr am y cyfle i ymateb i'r ddadl heddiw, sy'n dilyn deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynnu asesiad o'r effaith amgylcheddol mewn perthynas â Hinkley. Yn gyntaf, fel Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, hoffwn innau hefyd gydnabod y cyhoeddiad diweddar a wnaed gan EDF Energy a'i fwriad i gynnal asesiad o'r effaith amgylcheddol llawn i roi sicrwydd i aelodau'r cyhoedd ynglŷn â'i weithgarwch arfaethedig. Mae dyfroedd Cymru yn adnodd a rennir ac yn ased pwysig i bob un ohonom. Maent yn gartref i amrywiaeth eang o gynefinoedd a rhywogaethau ac yn cael eu defnyddio gan lawer i gefnogi eu bywoliaeth. Rwy'n deall y pryderon ynghylch y bwriad i waredu gwaddodion morol sy'n gysylltiedig â datblygiad Hinkley yn nyfroedd Cymru, ac rwyf wedi gwrando'n astud iawn ar y pwyntiau a godwyd heddiw. Gallaf sicrhau'r Aelodau fod gennym ddeddfwriaeth trwyddedu morol gadarn ar waith i sicrhau bod yr amgylchedd ac iechyd pobl yn cael eu diogelu rhag effeithiau posibl gweithgareddau a reoleiddir ar y môr. Mae trwyddedu morol yn seiliedig ar dystiolaeth, ac mae'n un o'r arfau allweddol a ddefnyddir i reoli dyfroedd Cymru'n gynaliadwy. Mae'r broses wedi'i hen sefydlu, yn llwyr gefnogi gofynion deddfwriaeth Cymru a'r DU, ac yn sicrhau na wneir penderfyniadau yn groes i gyfraith ryngwladol.
Fel y gŵyr yr Aelodau, mae CNC yn gweinyddu ac yn penderfynu ar geisiadau trwyddedau morol ar ran Gweinidogion Cymru. Rwy'n hyderus ei fod yn cydymffurfio'n llawn â'i rwymedigaethau cyfreithiol, ac mae'n parhau i weithredu o fewn ysbryd y cyfarwyddyd blaenorol, a gyhoeddais yn 2018, mewn perthynas â'r drwydded forol sydd bellach wedi dod i ben. Mae CNC yn darparu gwell tryloywder o ran y broses trwyddedu morol, ac yn rhoi mwy o gyfle i'r Aelodau o'r Senedd a'r cyhoedd gymryd rhan yn y broses, lle mae'n briodol gwneud hynny, mewn perthynas â'r prosiect hwn.
Gweinidogion Cymru yw'r corff apêl ar gyfer trwyddedu morol, felly rhaid i mi gofio'r ddyletswydd gyfreithiol hon a pheidio â gwneud sylwadau manwl heddiw ar fanylion asesiad o'r effaith amgylcheddol mewn perthynas â Hinkley. Fodd bynnag, gallaf siarad yn fwy eang am asesiadau o'r effaith amgylcheddol. Yn ôl y gyfraith, rhaid i asesiadau o'r fath gael eu cynnal gan berson cymwys, ac felly fe'u cyflawnir fel arfer gan ymarferwyr asesu amgylcheddol achrededig. Mae asesiadau o'r effaith amgylcheddol yn asesu effaith amgylcheddol debygol gweithgaredd, yn gadarnhaol ac yn negyddol, gan ystyried materion fel bioamrywiaeth ac iechyd pobl. Mae Rheoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007 yn sefydlu'r broses asesu effaith amgylcheddol ac yn nodi'r seiliau cyfreithiol dros ddod i benderfyniad ynglŷn ag a oes angen asesiad o'r effaith amgylcheddol a'r wybodaeth sy'n rhaid ei chynnwys yn y datganiad amgylcheddol, dogfen a gynhyrchir fel rhan o'r asesiad o'r effaith amgylcheddol i gyflwyno ei ganfyddiadau.
O dan y rheoliadau hyn, CNC yw'r awdurdod priodol a'r rheoleiddiwr. Felly, mae asesiad o'r effaith amgylcheddol yn fater technegol a rheoliadol i CNC. Nid mater i Weinidogion Cymru yw mynnu asesiad o'r effaith amgylcheddol. Rhaid dilyn y prosesau cyfreithiol. Gallaf sicrhau'r Aelodau y bydd CNC yn mynnu proses gadarn a thrylwyr ar gyfer asesu'r effaith amgylcheddol i gefnogi cais am drwydded forol, a fydd yn amodol ar ymgynghoriad ag arbenigwyr technegol CNC ac aelodau o'r cyhoedd. Ni fydd CNC yn rhoi trwydded forol i waredu gwaddodion morol oni cheir penderfyniad ffafriol mewn perthynas â'r asesiad o'r effaith amgylcheddol, a dim ond os yw'r profion gwaddodion angenrheidiol, a gynhelir yn unol â safonau rhyngwladol, yn pennu'n glir fod y deunydd yn ddiogel ac yn addas i'w waredu yn y môr, ac nad yw'n peri unrhyw risg sylweddol i iechyd yr amgylchedd na phobl.
Y llynedd, cyhoeddais gynllun morol cenedlaethol Cymru, yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer moroedd glân, iach, diogel, cynhyrchiol a biolegol amrywiol. Mae hwn yn gynllun uchelgeisiol sy'n gam mawr ymlaen yn y ffordd rydym yn rheoli ein dyfroedd ac yn sicrhau dyfodol cynaliadwy. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod cynaliadwyedd wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau a bod gennym broses trwyddedu morol yng Nghymru sy'n deg i bawb, yn addas i'r diben, yn gadarn ac yn dryloyw, gyda phenderfyniadau'n seiliedig ar wyddoniaeth gadarn. Mae hyn yn sicrhau bod ein dyfroedd gwerthfawr yn lân, yn iach, yn ddiogel, yn gynhyrchiol ac yn fiolegol amrywiol, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Yn olaf, fel y gŵyr yr Aelodau ac fel y nododd Jenny Rathbone, sefydlwyd grŵp cyfeirio rhanddeiliaid arbenigol allanol yn gynharach eleni, ar gais y Prif Weinidog. Bydd y grŵp, dan gadeiryddiaeth Jane Davidson, yn rhoi cyngor i Weinidogion ar oblygiadau datblygiad Hinkley i lesiant Cymru. Mae'r grŵp wedi cyfarfod sawl gwaith ac er mwyn sicrhau tryloywder ar y materion a ystyrir gan y grŵp, cyhoeddir crynodebau o'i drafodaethau ar wefan Llywodraeth Cymru, lle mae cylch gorchwyl y grŵp a dulliau gweithio hefyd ar gael i unrhyw un eu gweld. Diolch.