Part of QNR – Senedd Cymru ar 21 Hydref 2020.
Rydyn ni’n cyfarfod â swyddogion yr awdurdodau lleol yn rheolaidd i drafod y cynnydd sy’n cael ei wneud o ran datblygu a chryfhau addysg cyfrwng Cymraeg. Mae canllawiau diwygiedig y cynllun strategol Cymraeg mewn addysg, a gyhoeddir ym mis Ionawr 2021, yn pwysleisio pwysigrwydd addysg y blynyddoedd cynnar a gweithio mewn partneriaeth wrth gynllunio darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn effeithiol.