13. Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:24 pm ar 3 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 6:24, 3 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Cynigiaf y cynnig. Rwy'n falch o allu cyflwyno Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020. Hoffwn i ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig am graffu ar y Gorchymyn hwn a'r gwaith parhaus ar y fframwaith ehangach.

Mae Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020 yn sefydlu polisi newydd yn y gyfraith ar gyfer cyfranogiad y DU yn system masnachu allyriadau'r UE. Gan ddechrau ar 1 Ionawr 2021, bydd y cynllun yn cymell allyrwyr carbon mwyaf Cymru i ddatgarboneiddio eu gweithrediadau wrth sicrhau chwarae teg ledled y DU.

Mae'r cynllun wedi ei gynllunio i weithredu fel system annibynnol os oes angen, ond y mae wedi ei gynllunio hefyd i hwyluso'r broses o gysylltu â system yr UE, ar yr amod bod y DU a'r UE yn dod i gytundeb. Dyma fyddai orau gan Lywodraeth Cymru a dyma'r canlyniad gorau i bob parti.

Mae'r cynllun yn gweithredu drwy osod terfyn cyffredinol ar gyfanswm yr allyriadau o weithfeydd diwydiannol, gorsafoedd pŵer a gweithredwyr awyrennau sy'n cymryd rhan. Mae'n ofynnol i gyfranogwyr y cynllun adrodd ar eu hallyriadau ac ildio nifer cyfatebol o lwfansau allyriadau yn flynyddol. Gellir prynu lwfansau allyriadau o arwerthiant y Llywodraeth neu ar y farchnad eilaidd. Caiff rhai lwfansau eu dyrannu heb daliad i ddiwydiannau sydd mewn perygl o ollwng carbon. Trwy bennu uchafswm absoliwt ar allyriadau, mae sicrwydd y bydd y polisi yn cyflawni ei ganlyniadau amgylcheddol.

Mae'r Gorchymyn hwn yn un o gyfres o ddeddfwriaeth, y byddaf i'n disgrifio yn gryno. Mae'r Gorchymyn yr ydym ni'n ei drafod heddiw yn sefydlu strwythur cynllun masnachu allyriadau'r DU ac elfennau polisi sylweddol, fel cwmpas, y terfyn uchaf a'r taflwybr, diffiniad lwfansau allyriadau, gorfodi a swyddogaeth rheoleiddwyr. Rydym ni hefyd yn cwblhau Gorchymyn arall, a fydd yn cael ei wneud trwy ddefnyddio'r weithdrefn negyddol. Bydd hwn yn ymdrin â dyrannu lwfansau am ddim a materion sy'n ymwneud â'r gofrestrfa. Yn ogystal, bydd is-ddeddfwriaeth o dan Ddeddf Cyllid 2020 yn ymdrin â phob agwedd ar ddewisiadau lwfansau allyriadau a dulliau sefydlogrwydd y farchnad. Mae'r Senedd wedi rhoi ei chydsyniad i Lywodraeth y DU ddeddfu ar gyfer yr agwedd hon ar y cynllun.

Yn olaf, mae deddfwriaeth sy'n defnyddio pwerau sylfaenol o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 a Deddf Gwasanaethau Ariannol a Marchnadoedd 2000 yn cael ei gosod gan Lywodraeth y DU i ganiatáu i'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol barhau â'i swyddogaeth fel y corff rheoleiddio ar gyfer y farchnad lwfansau allyriadau.

Mae pwyllgorau'r Senedd wedi bod yn ceisio eglurder ynghylch agweddau ar y fframwaith nad ydyn nhw'n rhai deddfwriaethol, a gofynnodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn benodol i mi yn ei lythyr diweddar ynghylch datrys anghydfod. Rydym ni'n bwriadu uwchgyfeirio anghydfodau i Gyd-bwyllgor y Gweinidogion, o gofio mai hwn yw'r unig ddewis sydd ar gael i ni nes i'r adolygiad cysylltiadau rhynglywodraethol ddod i ben. Bryd hynny, byddwn yn adolygu'r trefniadau. Fodd bynnag, dylai ein hymdrechion ganolbwyntio yn bennaf ar osgoi anghydfod. Mae ein concordat drafft, fel y cafodd ei gyflwyno i Weinidogion i'w gymeradwyo, yn disgrifio nifer o strategaethau i wneud hyn, gan gynnwys comisiynu tystiolaeth sydd wedi ei chwmpasu ar y cyd a phenodi cynghorwyr arbenigol i gynnal adolygiad cymheiriaid o'r dystiolaeth sy'n ffurfio penderfyniadau. Mae Deddf Newid Hinsawdd 2008 yn ei gwneud yn ofynnol hefyd i ni gael cyngor gan y pwyllgor newid hinsawdd cyn deddfu ar gyfer cynlluniau masnachu carbon newydd a chyn gwneud diwygiadau penodol, er enghraifft i gwmpas neu hyd y cynllun.

Bydd gan bwyllgorau'r Senedd gyfle i graffu ar y cytundeb fframwaith amlinellol dros dro a'r concordat cysylltiedig, a byddwn yn ystyried eich barn cyn cwblhau'r dogfennau. Bydd sicrhau pontio cynaliadwy i sylfaen ddiwydiannol Cymru yn hanfodol os ydym ni am gyflawni ein huchelgeisiau hinsawdd mewn modd cymdeithasol gyfiawn. Mae'r cynllun hwn yn cynnig cymhelliad ariannol i fusnesau reoli'r broses bontio mewn ffordd gost-effeithiol a hyblyg, wrth gynnal sicrwydd ynghylch yr amcan amgylcheddol cyffredinol. Felly, rwyf i'n cymeradwyo'r cynnig i'r Siambr. Diolch.