13. Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:31 pm ar 3 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 6:31, 3 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Rwy'n falch iawn o allu cyfrannu at y ddadl heddiw ar ran y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig. Mae'r pwyllgor wedi ystyried y Gorchymyn drafft yng nghyd-destun ei waith ehangach ar fframwaith cyffredin cynllun masnachu allyriadau'r DU. Ni fydd ein gwaith ar y fframwaith cyffredin yn cael ei gwblhau tan yn llawer diweddarach y tymor hwn pan fydd yr holl gytundebau perthnasol ar waith. Er nad wyf i'n dymuno achub y blaen ar gasgliad y pwyllgor, mae nifer o faterion pwysig wedi dod i'r amlwg, y mae gwerth tynnu sylw Aelodau'r Senedd atyn nhw i helpu i lywio'r ddadl heddiw.

Mae cynllun masnachu allyriadau'r UE yn arf allweddol i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ac yn gonglfaen i bolisi Cymru i fynd i'r afael â newid hinsawdd. Er mwyn i Gymru wireddu ei huchelgeisiau newid hinsawdd ar gyfer y cyfnod ar ôl Brexit, mae cynllun credadwy ac ymarferol yn lle cyfranogiad y DU yng nghynllun masnachu allyriadau'r UE yn hanfodol. Cyn troi at fanylion cynllun y DU, hoffwn i fynegi ein siom bod gofyn i Aelodau'r Senedd gymeradwyo'r Gorchymyn drafft, sy'n sefydlu cynllun masnachu allyriadau'r DU, heb gael cyfle i ystyried y cytundeb fframwaith dros dro. Y cytundeb hwn fydd yn nodi'r trefniadau llywodraethau o ran cynllun masnachu allyriadau'r DU, gan gynnwys prosesau ar gyfer gwneud penderfyniadau a datrys anghydfodau yn y dyfodol. Rydym yn deall bod amseriad cyhoeddi'r cytundeb fframwaith dros dro hwn y tu hwnt i reolaeth Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, rydym yn disgwyl i Lywodraeth Cymru geisio sicrhau, yn y dyfodol, na fydd gofyn i Aelodau'r Senedd gymeradwyo na chytuno ar elfennau deddfwriaethol fframweithiau cyffredin heb weld yr holl ddogfennau fframwaith cysylltiedig.

Gan symud ymlaen i gynllun masnachu allyriadau'r DU sy'n cael ei sefydlu gan y Gorchymyn drafft, mae cynllun y DU yn adlewyrchu'n agos dyluniad cynllun presennol yr UE. Yn ôl y Gweinidog, mae hyn er mwyn lleihau unrhyw rwystrau neu rwystrau canfyddedig i gytundeb cysylltu â'r UE. Mae'n ymddangos bod hwn yn ddull synhwyrol, o ystyried y dewis y mynegodd llywodraethau ar gyfer cynllun cysylltiedig yr UE-DU. Ar yr un pryd, mae wedi arwain at feirniadaeth bod diffyg uchelgais yng nghynllun y DU a bod cyfle wedi ei golli i sefydlu system newydd ar ôl Brexit sy'n dangos bod y DU yn arwain y byd o ran lleihau allyriadau.

Fe wnaf i ganolbwyntio fy sylwadau ar y darpariaethau allweddol sydd wedi eu cynnwys yn y Gorchymyn drafft sydd o'r diddordeb mwyaf i'r pwyllgor: cwmpas y cynllun a'r terfyn uchaf—cyfanswm lefel yr allyriadau a fydd yn cael eu caniatáu. Bydd cwmpas cynllun y DU yn cyfateb i gwmpas cynllun yr UE, o ran y sectorau a'r nwyon tŷ gwydr a gaiff eu cwmpasu. Bydd hyn yn sicrhau bod modd cysylltu'r cynlluniau, ond nid yw'n glir sut y bydd hyn yn effeithio ar effeithiolrwydd cynllun annibynnol yn y DU. Mae tua 11,000 o gyfranogwyr yng nghynllun yr UE; bydd hyn yn gostwng i ryw 1,000 mewn cynllun annibynnol. Yn gyffredinol, po fwyaf yw'r farchnad, y mwyaf llwyddiannus yw'r cynllun. Fe wnaethom ni glywed bod perygl, heb gynnydd yn ei gwmpas, y gallai cynllun annibynnol yn y DU fod yn anwadal. Os na chaiff cytundeb cysylltu ei gyflawni, bydd angen edrych eto ar gwmpas y cynllun, cyn gynted â phosib. Mae'r pedair Llywodraeth wedi ymrwymo i ystyried y dewis i ehangu cwmpas, ond, yn realistig, gall unrhyw ehangu posibl ar gwmpas y cynllun fod flynyddoedd i ffwrdd.

Gan symud ymlaen at y terfyn uchaf ar allyriadau, bydd y terfyn cychwynnol neu dros dro yn cael ei osod 5 y cant yn llai na chyfran dybiannol y DU o gynllun masnachu allyriadau'r UE. Mae'r terfyn hwn, fel y nododd y Gweinidog, yn dynnach ac felly yn fwy uchelgeisiol nag y byddai wedi bod o dan gynllun yr UE. Yn llythyr Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd at y pedair Llywodraeth dyddiedig Mawrth 2020, dywedodd fod cynigion interim y Llywodraethau ar gyfer y cynllun yn anghyson ag uchelgais sero net y DU, yn benodol o ran y lefel uchel o allyriadau a gaiff eu caniatáu o dan y terfyn arfaethedig. Mae'n mynd ymlaen i ddweud bod perygl wrth fabwysiadu'r cynllun masnachu arfaethedig o anfon neges niweidiol yn rhyngwladol, ac os caiff y terfyn ei osod yn rhy uchel, mae perygl iddo danseilio'r cynllun fel cynllun masnachu. Ac eto, nid yw'r Llywodraethau wedi ystyried y rhybudd hwn wrth gwblhau eu cynigion. Yn hytrach, maen nhw wedi ymrwymo i adolygu'r terfyn yng ngoleuni cyngor pwyllgor newid hinsawdd y DU ar dargedau carbon yn y dyfodol y mae disgwyl iddyn nhw gael eu cyhoeddi fis nesaf. Ond heb unrhyw ddisgwyl o ddiwygio'r terfyn tan fis Ionawr 2023 os nad hwyrach, bydd y cynllun yn gweithredu ar lefel is nag y gallai yn ei flynyddoedd cynnar. Fe wnaeth yr Arglwydd Deben, cadeirydd pwyllgor newid hinsawdd y DU bwysleisio i ni fel pwyllgor bwysigrwydd gwneud pethau yn iawn a'u gwneud yn iawn o'r dechrau. Nid ydym ni wedi ein hargyhoeddi hyd yn hyn y bydd y cynllun sydd wedi ei sefydlu gan y Gorchymyn drafft yn gwneud hyn.

Llywydd, rydym yn tynnu sylw at y materion hyn gan wybod yn iawn fod y bleidlais heddiw yn benderfyniad 'derbyn neu wrthod'. Bydd ein hadroddiad ar fframwaith cyffredin cynllun masnachu allyriadau'r DU yn nodi ein barn ar y cynllun, fel y mae wedi ei sefydlu gan y Gorchymyn drafft, ac unrhyw welliannau yr ydym ni'n credu y mae angen eu gwneud, wrth symud ymlaen. Yn olaf, er bod gofyn i ni gymeradwyo'r Gorchymyn drafft sydd ger ein bron heddiw, nid oes sicrwydd a fydd cynllun y DU yn dwyn ffrwyth. Mae'n anffodus iawn, â dim ond ychydig wythnosau cyn diwedd y cyfnod gweithredu, nad yw Llywodraeth y DU wedi egluro hyd yn hyn a fyddai'n well gan Lywodraeth y DU, os nad oes modd dod i gytundeb cyswllt, gael cynllun annibynnol yn y DU neu dreth allyriadau carbon a gadwyd yn ôl. Ar hyn o bryd, efallai y bydd Llywodraeth y DU yn dal i gymryd camau unochrog i gyflwyno treth a gadwyd yn ôl. Nid wyf i'n dymuno agor y ddadl heddiw ar y da a'r drwg sy'n gysylltiedig â phenderfyniad o'r fath. Fodd bynnag, os caiff penderfyniad o'r fath ei wneud, bydd y Gorchymyn drafft sydd ger ein bron, ar ôl ei wneud, yn ddi-werth. Gweinidog, os felly, a wnewch chi egluro a fydd gan y Senedd ran mewn diddymu'r Gorchymyn hwn? Diolch, Llywydd.