Part of the debate – Senedd Cymru am 6:38 pm ar 3 Tachwedd 2020.
Os caiff y refeniw ei rannu, a fydd yn cael ei rannu ar sail poblogaeth? A yw'n mynd i ddod drwy fformiwla Barnett? A yw'n mynd i adlewyrchu'r ffaith bod 9 y cant o'r gosodiadau sy'n ddarostyngedig i'r cynllun wedi eu lleoli yng Nghymru, neu fod 15 y cant, rwy'n credu, o allyriadau'r DU o fewn y cynllun yn dod o Gymru? Mae cyfranogwyr cynllun masnachu allyriadau yn cyfrif am 46 y cant o gyfanswm allyriadau Cymru a 30 y cant o allyriadau'r DU. Felly, heb atebion i'r cwestiynau hyn, mae perygl y byddwn ar ein colled yn anghymesur yma yng Nghymru.
Nawr, cynllun masnachu allyriadau'r DU sy'n gysylltiedig â chynllun masnachu allyriadau'r UE yw'r ffordd gywir ymlaen, ond rwyf i'n rhannu llawer o'r pryderon, yn enwedig y pryderon y mynegodd Cadeirydd y pwyllgor newid hinsawdd, ynghylch lefel yr uchelgais yn y fan yma, yn enwedig o ran y terfyn uchaf ar allyriadau a chwmpas y cynllun. Mae Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd, fel yr ydym ni wedi clywed, yn dweud wrthym ni fod y cynigion yn anghyson â'n huchelgeisiau sero net. Ac eto, dyma ni heddiw, yn symud ymlaen beth bynnag, yn cymeradwyo hyn, o bosibl, yn ystod wythnos yr hinsawdd, o bob wythnos—pa mor eironig yw hynny?
Nawr, rwy'n sylweddoli nad bai Llywodraeth Cymru yw hyn i gyd; mae'n fwy o adlewyrchiad o'r ffordd draed moch y mae Llywodraeth y DU yn ymdrin â'i pharatoadau ar gyfer diwedd y cyfnod pontio. Ond mae hyn yn cael ei ruthro drwodd. Mae'n cael ei ddwyn ger ein bron mewn modd tameidiog. Ac, wrth gwrs, fel yr ydym ni wedi clywed, mae'n debygol iawn na fydd cynllun masnachu allyriadau beth bynnag, oherwydd bod Llywodraeth y DU erbyn hyn yn awgrymu mai'r dewis y maen nhw'n ei ffafrio yw treth allyriadau carbon. Felly, gallai hyn i gyd fod yn ddi-werth ymhen ychydig wythnosau. Ac, wyddoch chi, er ein bod ni'n cefnogi egwyddor cynllun masnachu allyriadau cysylltiedig, mae hyn mewn gwirionedd yn cynrychioli popeth sy'n anghywir am y broses, ar lefel rynglywodraethol, yn sicr, ond ar lefel y Senedd hefyd. Nid yw'n ddelfrydol; dadl 15 munud yw hon, ac, wrth gwrs, y mae wedi ei chyflwyno cyn i'r pwyllgor newid hinsawdd gael cyfle i ystyried a chwblhau ei drafodaethau ar y mater. Felly, mae'n destun rhwystredigaeth, ac mae arnaf ofn nad oes dewis gan Blaid Cymru ond ymatal.