Achosion o COVID-19 yng Nghaerffili

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 3 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hefin David Hefin David Labour 1:51, 3 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Ac rwyf i'n cydnabod hefyd, gyda'r Prif Weinidog, fod pobl Caerffili wedi gwneud ymdrechion aruthrol dros y ddau fis diwethaf i gael y gyfradd o dan reolaeth, ond bydd ef yn ymwybodol—mor ymwybodol ag unrhyw un arall—bod Caerffili wedi bod dan gyfyngiadau o ryw fath am fwy o amser na neb arall yng Nghymru, ers 8 Medi. O gofio hynny, rydym ni wedi dysgu rhai gwersi yng Nghaerffili, ac mae'r ffiniau sydd gennym ni â bwrdeistrefi sirol wedi peri problemau i aelwydydd sengl a oedd, o dan y cyfyngiadau lleol, yn cael cysylltu â phobl o fewn ffiniau'r sir yn unig. I lawer, mae honno'n ffin ffug—pobl a oedd yn dymuno cysylltu ymhellach i'r gogledd yn Rhymni, pobl sy'n dymuno cysylltu yn Nantgarw—ac mae'n ei gwneud yn anodd iawn. A cheir nifer fawr o broblemau cysylltiedig eraill o ran y ffiniau sirol hynny. Felly, pe byddai angen rhagor o gyfyngiadau, a fyddai'r Prif Weinidog, os gwelwch yn dda, yn cadw hynny mewn cof a meddwl efallai am sut y gallwn ni sicrhau bod pobl sy'n byw ar eu pennau eu hunain yn arbennig, ond mwy o bobl y mae cyfyngiadau yn effeithio arnyn nhw, yn gallu cysylltu y tu hwnt i'r ffiniau sirol hynny yn ystod cyfyngiadau lleol?