Achosion o COVID-19 yng Nghaerffili

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 3 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Conservative 1:54, 3 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Iawn. Cefais i rai problemau gyda fy motymau yn y fan yna.

Prif Weinidog, er mwyn i bobl yng Nghaerffili a Chymru allu paratoi, mae'n ymddangos bod rhyw fath o ddryswch yr wyf i'n gobeithio y gallwch chi ei egluro i ni y prynhawn yma. Mae un o'ch Gweinidogion chi wedi llefaru gan ddweud y bydd cyfnod atal byr arall ym mis Ionawr a mis Chwefror—cyfyngiadau symud cyfnod atal byr arall. A wnewch chi gadarnhau neu egluro safbwynt y Llywodraeth ynglŷn â hyn, os gwelwch yn dda?