Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 3 Tachwedd 2020.
Prif Weinidog, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi lansio'r gronfa adferiad diwylliannol gwerth £53 miliwn a'r ffrwd cyllid â blaenoriaeth gwerth £18 miliwn. Ers mis Medi mae sefydliadau diwylliannol a threftadaeth wedi gallu gwneud cais am gyllid wrth i ni ddechrau'r adferiad hir ac araf o argyfwng iechyd cyhoeddus mwyaf y ganrif ddiwethaf, ac nid oes unrhyw sector o'n cymdeithas nad yw wedi dioddef effaith y pandemig hwn. Yn wir, y dirwedd ddiwylliannol yw gwead sylfaenol bywyd Cymru. Felly, Prif Weinidog, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn asesu'r angen, wrth symud ymlaen i 2021, i gynorthwyo sefydliadau diwylliannol a threftadaeth Cymru fel na fyddan nhw'n cael eu colli i genedlaethau'r dyfodol?