Part of the debate – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 3 Tachwedd 2020.
Iawn, Llywydd. Rwy'n gwybod bod y Prif Weinidog wedi dweud yn gynharach fod angen eglurder arno ynghylch symiau canlyniadol Barnett ar hyn, ond byddwn i'n croesawu mwy o eglurder ynghylch yr hyn yr oedd yn ei olygu, gan ei fod yn ymddangos bod hon yn fformiwla ar gyfer arian sydd eisoes wedi ei ddarparu. Felly, hoffwn i gael y datganiad hwnnw, os gwelwch yn dda, ar frys gan y Gweinidog, gan fod y busnesau hyn yn haeddu gwell.