Part of the debate – Senedd Cymru am 3:16 pm ar 3 Tachwedd 2020.
Diolch, Llywydd. Diolch, Prif Weinidog, am y datganiad ac am gyhoeddiad ddoe yr wyf i'n gwybod y byddai croeso mawr iddo gan lawer iawn o bobl ledled Cymru, nid yn lleiaf fy rhieni i fy hun, sy'n edrych ymlaen at gael cysylltiad â'u hŵyr unwaith eto. Rwy'n siŵr bod hynny i'w deimlo ymhlith llawer iawn o deuluoedd ledled Cymru.
Mae Gweinidog yr economi a thrafnidiaeth eich Llywodraeth chi wedi dweud ei bod hi'n annhebygol mai'r cyfnod atal byr presennol fydd yr un olaf yng Nghymru, a bod cyfnod clo arall ledled Cymru yn ymddangos yn debygol yn y flwyddyn newydd. A fyddech chi'n cytuno y dylem ni gael nod y cytunir arno, cyn belled ag y bo hynny'n bosibl, mai'r cyfnod clo hwn ddylai fod yr un olaf genedlaethol? Nawr, wrth gwrs, fel yr oeddech chi'n iawn i'w bwysleisio, mae gan bob un ohonom ni ran, fel unigolion a chymdeithas, i wneud hynny'n bosibl, ond mae yna rai pethau, wrth gwrs, na ellir eu gwneud nhw ond gan Lywodraeth. Rydych chi wedi cyfeirio at y system brofi ac olrhain, sy'n gwbl ganolog i hyn, ac rydych chi wedi dweud ychydig am yr hyn yr ydych chi wedi bod yn ei wneud yn ystod y cyfnod atal byr. Ond tybed a wnewch chi ddweud pa welliant yr ydych chi'n bwriadu ei wneud o ran y targed hanfodol o 24 awr ynglŷn â dychwelyd canlyniadau'r profion i bobl, sy'n gwbl ganolog er mwyn gwneud hyn yn amddiffyniad effeithiol i atal cynnydd cyflymach eto mewn achosion.
Hefyd, tybed a wnewch chi ddweud a ydych chi wedi ailystyried mater profi cysylltiadau asymptomatig, fel y gwna gwledydd eraill eisoes, oherwydd fe wyddom oddi wrth dystiolaeth wyddonol nawr fod trosglwyddo asymptomatig yn elfen bwysig iawn yn ymlediad y feirws. A phryd ydych chi'n tybio y byddwn ni mewn sefyllfa lle gallem weld profion ledled y boblogaeth, fel y cyfeiriais i atyn nhw'n gynharach sydd wedi bod yn digwydd dros y penwythnos yn Slofacia, ac sy'n cael eu cynnig yn ninas Lerpwl? O ran olrhain cysylltiadau hefyd, a ydym ni'n debygol o weld pwyslais cynyddol ar olrhain cyswllt yn ôl yn ogystal ag ymlaen, sy'n bwysig o ran nodi ffynonellau unrhyw haint, ac a ydych chi wedi ystyried mabwysiadu'r system olrhain tair haen, sydd wedi profi i fod yn elfen lwyddiannus iawn yn Fietnam?
O ran brechlynnau, mae'r Alban, fel yr adroddwyd, yn paratoi i ddechrau brechu ymhen chwe wythnos. A ydych chithau hefyd yn gweithio'n galed i gwtogi'r amserlen cyn belled ag y bo modd er mwyn inni allu rhoi brechlynnau ar waith ym mis Rhagfyr o bosibl? Rwy'n ymwybodol, Prif Weinidog, o fethiant neu lanast y labordy goleudy. A ydym ni'n gwneud ein cynlluniau annibynnol ni yng Nghymru fel nad ydym yn dibynnu ar dasglu'r DU, o dan arweiniad penodiad gwleidyddol arall gan Boris Johnson? Ac o ran sylwadau Prif Weinidog y DU ddoe—oherwydd mae angen i bolisi economaidd, wrth gwrs, weithio'n gyfochrog â pholisi iechyd—y byddai ffyrlo a chymorth economaidd arall ar gael i'r gweinyddiaethau datganoledig pan oedd eu hangen arnynt, ond a gafodd ei wrthddweud heddiw gan yr Ysgrifennydd tai a llywodraeth leol, Robert Jenrick, a ddywedodd mai mater i'r Canghellor fyddai hynny. Beth yw eich dealltwriaeth chi o sefyllfa ddiweddaraf Llywodraeth y DU yn hyn o beth?
Yn olaf, wrth inni gefnu ar y cyfnod atal byr, rydym wedi argymell dull pwyllog a chyson, yn hytrach na llacio'r cyfyngiadau yn ddisymwth, i sicrhau ein bod ni'n diogelu'r hyn a enillwyd trwy aberth. A wnewch chi ddweud, Prif Weinidog, beth yw'r cyngor gwyddonol presennol o ran beth fydd y gyfradd heintio, yr R, ddydd Llun nesaf? Beth yw'r ddealltwriaeth ddiweddaraf o'r ffigur R? A ydych chi o'r farn, neu a yw'r cyngor gwyddonol ar gael ichi ar hyn o bryd, y bydd y fframwaith presennol a gyhoeddwyd gennych heddiw yn ddigon i gadw'r gyfradd R hollbwysig honno o dan 1 fel na fyddwn yn y pen draw mewn sefyllfa o orfod cael cyfnod pellach o glo a datglo?