5. Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Dyfodol Gwasanaethau Rheilffyrdd — Manylion y trefniadau newydd

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:09 pm ar 3 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 5:09, 3 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Prynhawn da, Dirprwy Lywydd, mae arnaf ofn na chefais arwydd i ddad-dawelu yn y fan yna.

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am eich diweddariad heddiw ac am eich datganiad? Mae'n newyddion rhagorol, wrth gwrs, eich bod wedi gallu sefydlu'r ymyriadau a amlinellwyd, nid yn unig i'r rhai sy'n defnyddio'r rhwydwaith rheilffyrdd, ond hefyd i'r rheini y mae eu swyddi'n cael eu sicrhau drwy eich gweithredoedd. Ac a gaf i sicrhau'r Gweinidog heddiw fod fy ngrŵp yn gwbl gefnogol i'ch ymyriadau, ac nid yn unig hynny, byddwn yn cefnogi unrhyw sylwadau a wnewch i Lywodraeth y DU i helpu ariannu'r rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru wrth fwrw ymlaen?

Er gwaethaf eich sicrwydd, Gweinidog, rhaid inni fod yn bragmatig ynglŷn â hyn, ac efallai y bydd rhywbeth yn tarfu ar y broses o uwchraddio'r rhwydwaith rheilffyrdd a ragwelwyd yn flaenorol. Felly, a wnewch chi roi syniad i ni ynghylch pa rannau o'r uwchraddio hynny y gallai'r newidiadau yr ydych chi wedi'u hamlinellu heddiw effeithio arnyn nhw?

Nawr, fe wnaethoch chi sôn am y gwasanaethau tocynnau integredig, ac mae'r rhain yn hanfodol i sicrhau bod teithio yng Nghymru yn parhau yn ddi-dor ac mor rhwydd â phosibl. Felly, a wnewch chi ein sicrhau eto wrth ddefnyddio'r mentrau preifat yr ydych chi yn cymryd yr awenau oddi arnynt, y byddwch yn gallu cyflawni'r gwasanaethau integredig hynny?

Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn credu, mewn gwirionedd, nad oedd dewis arall i chi oni bai am weithredu fel y gwnaethoch chi, ac rwyf yn eich cymeradwyo am gymryd y camau hynny. Rwy'n siŵr mai dyma'r unig ffordd y gallem ni fod wedi cadw'r gwasanaethau teithio yng Nghymru ar gyfer y dyfodol.