Part of QNR – Senedd Cymru ar 3 Tachwedd 2020.
Rydyn ni wedi rhoi dros £213 miliwn i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru eleni, gan gynnwys £41.5 miliwn ychwanegol i helpu’r sector addysg uwch i gynnal capasiti addysgu ac ymchwil, mynd i’r afael â heriau ariannol ac, yn hollbwysig, i gefnogi llesiant myfyrwyr a staff.