Datganiad gan y Llywydd

Part of the debate – Senedd Cymru am 1:29 pm ar 4 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 1:29, 4 Tachwedd 2020

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi eisiau nodi ychydig o bwyntiau ar gyfer yr Aelodau. Mae'r Cyfarfod Llawn heddiw, a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda chi. A dwi eisiau atgoffa'r Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod yma.