Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 4 Tachwedd 2020.
Gwnaf. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda'r holl fyrddau iechyd i sicrhau, pan ellir darparu gwasanaethau, mai'r cleifion sydd â'r anghenion brys mwyaf difrifol sy'n cael eu gweld gyntaf. Yn ystod y pandemig, mae'r capasiti sydd ar gael wedi'i leihau i alluogi pobl i gadw pellter cymdeithasol priodol a rhoi gwell mesurau atal a rheoli heintiau ar waith.