Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 4 Tachwedd 2020.
Wel, yn sicr, angen clinigol yw’r hyn a ddylai bennu sut y caiff pobl eu blaenoriaethu bob amser, yn enwedig felly ar hyn o bryd, gan y gwyddom y bydd rhai pobl wedi aros am fwy o amser gan fod gwasanaethau wedi'u gohirio, a bydd eraill wedi optio allan o'r gwasanaeth. Ond mewn gwirionedd, i rai o'r bobl hynny, bydd eu hanghenion hyd yn oed yn fwy erbyn hyn. Felly, ydy, mae honno'n neges glir iawn gan y Llywodraeth a chan brif weithredwr GIG Cymru i'n system gyfan. Os oes gan yr Aelod achosion penodol, lle mae'n poeni efallai nad yw'r blaenoriaethu clinigol hwnnw wedi digwydd, yn amlwg, gwn y bydd yn codi hynny gyda'r bwrdd iechyd yn gyntaf, ond mae croeso iddo ysgrifennu ataf os yw’n awyddus i faterion gael eu hymchwilio ymhellach hefyd. Ond mae’r neges yn glir iawn: blaenoriaethu clinigol i bawb sy'n aros yw’r union beth y dylai pob rhan o'n gwasanaeth iechyd fod yn ei wneud.