Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 4 Tachwedd 2020.
Weinidog, yn 2019 cyflawnodd GIG Cymru 35,700 o lawdriniaethau orthopedig. Mae data hyd at ddiwedd mis Awst yn dangos mai ychydig dros 8,000 o lawdriniaethau yn unig a gyflawnwyd yng Nghymru. Ar yr un pryd y llynedd, roedd y GIG yng Nghymru wedi cwblhau 24,000 o lawdriniaethau. Beth yw eich cynllun i fynd i'r afael â'r bom iechyd cyhoeddus hwn a fydd yn dod i chwalu’r GIG?