Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 4 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:52, 4 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy’n edmygu eich ymddiriedaeth yn Llywodraeth y DU. Fy ofn i, fel gyda phrofi a gwahanol elfennau eraill o'r hyn rydym wedi’i weld dros y saith neu wyth mis diwethaf, gan gynnwys cyfarpar diogelu personol ac ati, yw eich bod yn ofni cymryd cymaint o reolaeth ag y gallech. Rwyf wedi eich canmol yn y gorffennol, a byddaf yn gwneud hynny eto, gan ddweud bod Llywodraeth Cymru, mewn sawl ffordd, wedi bod ar ei gorau pan mae hi wedi penderfynu, 'Gwrandewch, ar gyfer hyn, mae angen inni wneud pethau'n iawn drwy wneud pethau ein hunain', gyda'r elfennau priodol a'r lefelau priodol o gydweithredu a rhannu syniadau, ac ati. Nawr, drwy beidio â bwrw iddi hyd eithaf eich gallu, mae perygl y gallai Cymru fod mewn sefyllfa lle na allech fwrw ymlaen â rhaglen mor gyflym â rhannau eraill o'r DU. Roedd yn dda darllen ddoe yn y cylchgrawn meddygon teulu, Pulse, er enghraifft, am gynlluniau ar gyfer ei gyflwyno yn Lloegr cyn y Nadolig, a byddai hynny’n wych. A chan fod ymddiriedaeth—a dof i ben gyda hyn—mor hanfodol i annog pobl i gael y brechlyn, gyda phobl yn ymddiried i raddau mwy yn Llywodraeth Cymru nag yn Llywodraeth y DU yn y mater hwn—gallech ddadlau nad yw hynny'n dweud llawer—oni fydd strategaeth a chyfathrebu clir ac eglur iawn gan Lywodraeth Cymru yn arf gwerthfawr wrth hybu ymddiriedaeth ac annog pobl i gael y brechlyn, fel y bydd angen inni ei wneud dros y misoedd nesaf?