Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 4 Tachwedd 2020.
Diolch, Weinidog. Ddoe, rhoddodd Andrew Goodall rybudd llwm fod disgwyl i’r galw am welyau gofal critigol i bobl â'r coronafeirws gynyddu dros y dyddiau a’r wythnosau nesaf. Sut mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ar gyfer y sefyllfa hon, ac yn hollbwysig, pa effaith ganlyniadol y gallai hyn ei chael ar feysydd gwasanaeth eraill yn ein hysbytai yng Nghymru?