COVID-19 a Thwristiaeth

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 4 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 2:28, 4 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Mae atyniadau a digwyddiadau’n elfennau unigol pwysig o’r economi twristiaeth, a dylid eu hystyried felly. Fel mae'n digwydd, bûm yn sgwrsio, fel y gwnaf y rhan fwyaf o wythnosau, â chymydog i mi nad wyf yn ei weld wyneb yn wyneb mwyach, oherwydd yn amlwg nid wyf yn gallu teithio—Sean Taylor, o Zip World a datblygiadau eraill—a buom yn trafod yr union fater hwn. Yn ein trafodaethau gyda'r gweithredwyr twristiaeth, cyn gynted ag y bo modd i atyniadau aros ar agor neu ailagor o fewn fframwaith iechyd y cyhoedd, rydym yn awyddus iawn i sicrhau y gellir marchnata potensial yr atyniadau hyn yn uniongyrchol yng Nghymru, i’r graddau y byddai modd gwneud hynny bellach, o fewn ein cymunedau. Yn sicr, mae'n bwysig ein bod yn gwneud hynny yn gyntaf oll yng nghyd-destun iechyd y cyhoedd, ond y tu hwnt i hynny, o'r holl arolygon rwyf wedi’u gweld a'r trafodaethau preifat rwyf wedi’u cael, nid yw apêl Cymru wedi lleihau yn ystod yr argyfwng. Fel y dywedoch chi yn gwbl gywir, mewn gwirionedd mae dealltwriaeth pobl o ba mor bwysig yw’r economi twristiaeth i Gymru ac apêl tirwedd Cymru a'n hatyniadau penodol i ymwelwyr wedi cynyddu yn sgil anallu pobl i fanteisio arnynt.