COVID-19 a Thwristiaeth

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 4 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 2:31, 4 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy'n falch o ddweud fy mod wedi gallu cerdded yn yr ardal y mae Huw yn ei disgrifio, ac mae'n ddeniadol dros ben yn wir. Mae cwm Garw yn hudolus i mi, oherwydd ei fod mor wahanol, ac eto mae ganddo dirwedd rwy'n gyfarwydd â hi yng nghanolbarth a gogledd Cymru.

Credaf mai'r peth allweddol yma yw'r cydweithrediad rhwng cymunedau, rhwng awdurdodau lleol a'u swyddogion twristiaeth a'r gymuned leol. Ar ddechrau'r pandemig hwn, trafodasom gyda llawer o gymunedau bwysigrwydd sicrhau, pan oedd hi'n bosibl dychwelyd at botensial mwy cytbwys i'r economi ymwelwyr, fod yn rhaid cael cydsyniad cymunedol, a bod pobl eisiau i bobl eraill ymweld â'u cymunedau. Oherwydd yn y ffordd draddodiadol o ddisgrifio twristiaeth, mae yna gymuned sy'n cynnig llety, mae yna gymuned ymwelwyr, ac ni allwch gael un heb y llall. Felly rwy'n awyddus iawn, gobeithio, i'n gweld yn gallu dychwelyd at y ffordd honno o feddwl am y diwydiant, oherwydd mae mor hanfodol yn economaidd i'n cymunedau, ond mae hefyd mor bwysig er mwyn pwysleisio partneriaeth y gwledydd o fewn y Deyrnas Unedig ac ar dir mawr Ewrop.