COVID-19 a Thwristiaeth

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 4 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 2:33, 4 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Wel rwy'n gresynu eich bod yn dewis ceisio troi'r drafodaeth resymol hon am dwristiaeth yn drafodaeth ar y berthynas rhwng y Saeson a'r Cymry oherwydd nid dyna'r mater dan sylw. Nid yw'n ymwneud â'r cenhedloedd o fewn y Deyrnas Unedig; mae'n ymwneud ag iechyd y cyhoedd, ac mae'n rhaid inni ganolbwyntio ar hynny. Rwyf wedi treulio llawer o amser ac egni yn ystod y pandemig hwn yn ceisio sicrhau nad yw pobl yn troi hwn yn safbwynt gwrth-Seisnig, nac yn wir yn safbwynt gwrth-Gymreig. Ac ar un ystyr, gyda'r mesurau newydd yn Lloegr yn ogystal â'r mesurau newydd yng Nghymru, gobeithio y gallwn ddeall nawr ein bod i gyd yn yr un cwch, fel petai—neu o leiaf mewn dau gwch sy'n symud i'r un cyfeiriad.