Iechyd Meddwl a'r Cyfyngiadau Symud

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 4 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 3:03, 4 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Weinidog, rwyf wedi bod mewn cysylltiad â ColegauCymru, sy'n pryderu'n fawr am y cymorth y mae dysgwyr addysg bellach a'r sector yn ei gael. Mae addysg uwch wedi cael £10 miliwn arall ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl ac er bod rhywfaint o hwnnw ar gyfer myfyrwyr sydd wedi gorfod ynysu yn eu llety myfyrwyr, credaf fod rhywfaint ohono ar gyfer ymwybyddiaeth o hunanladdiad ac ymdrin â materion iechyd meddwl. A gaf fi ofyn i chi—gwn fod hyn yn cynnwys addysg hefyd—a wnewch chi drafod gyda'r Gweinidog Addysg i weld a ellid ymestyn y math hwn o gymorth i gynnwys addysg bellach hefyd? Credaf fod angen buddsoddiad pellach, mwy o fuddsoddiad, mewn materion iechyd meddwl, cwnsela ac ymwybyddiaeth o hunanladdiad, yn enwedig yn y sector addysg bellach.