Iechyd Meddwl a'r Cyfyngiadau Symud

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 4 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mandy Jones Mandy Jones UKIP 3:04, 4 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch. Croeso i'ch rôl newydd, Weinidog. Nid mater i'r gwasanaeth iechyd yn unig yw ein hiechyd meddwl, mae'n fater i bob unigolyn, bob teulu a phob cymuned. Rwy'n pryderu'n fawr ynglŷn â chau campfeydd, sydd, yn ogystal â darparu manteision iechyd meddwl ymarfer corff, yn gymunedau bach ynddynt eu hunain, a hefyd mannau addoli ar gyfer gweddïo cymunedol. Mae'r ddau fath o sefydliad yn rhoi ymdeimlad o bwrpas a chymuned ac rydym angen y pethau hynny yn awr yn fwy nag erioed. Weinidog, a wnewch chi gydnabod pwysigrwydd campfeydd a mannau addoli—ac rydych newydd sôn am ymarfer corff hefyd—i'n hymdeimlad o lesiant, ac a allwch chi wneud popeth yn eich gallu i sicrhau eu bod yn aros ar agor ar ôl i'r cyfnod atal byr hwn ddod i ben yng Nghymru, os gwelwch yn dda? Diolch.