Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 4 Tachwedd 2020.
O ran darlledwyr, dwi’n cyd-fynd yn gryf iawn â'r sylwadau a glywsom ni gan Siân Gwenllian yn y fan honno. Mi fues i’n cynnal trafodaethau efo un o brif ddarlledwyr Cymru yn ddiweddar yn gwneud yr union bwyntiau clywsom ni’n cael eu gwneud gan Siân Gwenllian yn y fan yna. Mae yna rwystrau technegol weithiau, mae eisiau cydnabod y rheini, ond hefyd, os mai rhwystrau o ran polisïau neu agwedd neu ddiwylliant mewn darlledu sydd ar waith, wel, mae’n bwysig iawn ein bod ni drwy’r amser yn trio gwthio am newidiadau yn yr agweddau yna gan ddarlledwyr. Achos dwi’n cyd-fynd; mae yn rhoi Aelod sydd yn dewis siarad Cymraeg dan anfantais os mai’r norm ydy peidio â defnyddio’r deunydd yna yn Gymraeg ar raglenni Saesneg. Mae yna gymaint wedi newid mewn blynyddoedd diweddar. Hynny ydy, fyddwn ni ddim wedi cael rhaglenni fel Hinterland, lle mae’r ddwy iaith yn cael eu clywed ochr yn ochr â’i gilydd, rai blynyddoedd yn ôl. Mae o’n dod yn norm ac mae eisiau i hynny ddigwydd hefyd mewn perthynas â sut mae’r Senedd yma’n cael ei darlledu.
At Gareth Bennet i gloi. Nid obsesiwn efo dwyieithrwydd sydd gen i, dwi’n addo i chi. Dwi yn ddwyieithog, rydyn ni i gyd yn berchen ar ddwy iaith, pa un ai ydym ni'n eu siarad nhw bob dydd ai peidio. A hefyd, mae’n bwysig cofio mai’r hyn mae’r polisïau sydd gan y Senedd yn eu gwneud ydy rhoi cyfle i bawb sydd yn dod i weithio yn y sefydliad yma i allu datblygu eu hunain ar hyd y continwwm ieithyddol yna. Mae Cymraeg cwrteisi yn Gymraeg sylfaenol iawn, iawn, iawn, ond beth sy’n amlwg ydy bod y gallu i feddu ar y sgiliau sylfaenol yna hyd yn oed nid yn unig yn bwysig i’r sefydliad fel corff cenedlaethol ond yn rhywbeth sy’n dod yn bwysig i’r unigolion. Ond, wrth gwrs, mae wastad yn bwysig gwneud yn siŵr ein bod ni’n ymestyn i bob cymuned yng Nghymru i roi yr un cyfleoedd iddyn nhw.
Mi wnaf i gloi yn y fan yna. Diolch eto am y cyfraniadau. Dwi am gloi efo ychydig o ddiolchiadau: i Siân Gwenllian am y gwaith a wnaeth hi fel Comisiynydd o fy mlaen i, yn gwneud gwaith rhagorol yn arwain, mewn difrif, at greu yr adroddiad yma; a diolch hefyd, wrth gwrs, i’r staff sydd yn gweithio mor ddygn i nid yn unig weithredu ein polisi iaith ni, ein cynllun iaith ni, ond sydd, wrth gwrs, wedi bod mor allweddol mewn paratoi’r adroddiad sydd o’n blaenau ni heddiw.