Part of the debate – Senedd Cymru am 4:01 pm ar 4 Tachwedd 2020.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, a diolch i'r tri a wnaeth gyfrannu at y drafodaeth yma. Mi wnaf i gadw fy sylwadau i gloi yn eithaf byr.
Suzy Davies yn gyntaf. Diolch am y sylwadau hynny. Mi ddywedodd Suzy ei bod hi'n siomedig o weld y nifer sy'n defnyddio'r Gymraeg yn mynd lawr a phwyntio'r bys ati hi ei hun. Does dim eisiau i unrhyw unigolyn bwyntio'r bys atyn nhw ei hunain o gwbl, wrth gwrs; annogaeth sydd ei angen ar bobl i ystyried opsiynau ar y pryd i ddefnyddio'r Gymraeg. Ond, mae e'n rhywbeth i ni fod yn ymwybodol ohono fo, ac yn hynny o beth, dwi'n cyd-fynd yn llwyr efo'r hyn a ddywedodd Suzy. A hefyd i gofio bod angen yr arweiniad gan y Llywodraeth hefyd, yn ogystal â gan Aelodau meinciau cefn.
Mae yna heriau, wrth gwrs—rydyn ni'n trio'u goresgyn nhw o hyd. Ac o ystyried y pwynt a wnaeth Suzy Davies ynglŷn ag ymestyn allan at ysgolion a cholegau, mae'r heriau ieithyddol yna'n digwydd ar draws Cymru, a dwi'n cyd-fynd y gallwn ni fod yn chwilio am ffyrdd i rannu arfer da efo'r sectorau hynny hefyd. Mi chwiliwn ni am ffordd o wneud hynny, achos mae o'n fater o'r Senedd yn cymryd ei rôl genedlaethol o ddifrif, onid ydy, ac yn ymestyn at bobl ac yn dysgu o'n profiadau ni orau y gallwn ni.
O ran y defnydd o'r Gymraeg—eto, yn ôl at hynny—fedrwch chi ddweud ei bod hi wedi bod yn flwyddyn anarferol, a tybed oedd hynny i gyfrif am y ffaith bod yna lai o ddefnydd o'r Gymraeg. Yn rhyfedd iawn, dwi wedi'i ffeindio hi'n haws troi i'r Gymraeg mewn cyfarfodydd pwyllgor, er enghraifft, ac yma yn y Cyfarfod Llawn; does yna ddim oedi, bellach, i bobl orfod ymestyn am bâr o glustffonau, ac ati, mae'r peth yn digwydd yn fwy llyfn. Felly, mae yna fanteision sy'n gallu deillio o weithredu'n rhithwir yn y ffordd yna. Diolch am y sylwadau hynny.
Siân Gwenllian—nifer o bwyntiau yn fy mhrocio i fel Comisiynydd. Dwi ddim yn anghytuno efo'r angen i edrych eto ar beth ydy'n statws ni ac a ddylai'r Senedd ddod o dan safonau'r iaith Gymraeg ac ati. Beth fyddwn i'n dweud ydy mai'r hyn sy'n bwysig ydy beth ydyn ni'n ei wneud fel sefydliad, nid cymaint beth ydy'r cymhelliad sydd arnom ni, neu'r disgwyliadau cyfreithiol sydd arnom ni. Mae'n hollol gymwys i'r ddadl honno barhau i fod yn un byw.
Technoleg—mi wnaeth Siân bwyntiau da iawn ynglŷn â thechnoleg. Mi oedd Zoom, onid oedd, yn rhywbeth gwyrthiol a oedd wedi digwydd yn y cyfnod cyn y pandemig yma. Des i ar draws Zoom am y tro cyntaf, dwi'n meddwl, ym mis Rhagfyr y llynedd; yn sydyn reit, mae gennym ni'r platfform yma rydyn ni'n gallu gweithredu'n gwbl ddwyieithog arno fo. Ac oes, mae yna waith dal i'w wneud ar blatfformau eraill, yn cynnwys Teams. Mae Teams ei hunan, wrth gwrs, yn rhyngwladol wedi gorfod datblygu o fod yn blatfform ar gyfer, dwi'n meddwl, pedwar o bobl yn unig, nôl ym mis Mawrth; erbyn hyn, mae o'n blatfform llawer mwy. Ond mae angen defnyddio’r berthynas, wrth gwrs, sydd gan y Senedd efo cwmni fel Microsoft er mwyn gwneud yn siŵr bod y gallu yna i weithredu yn ddwyieithog ar bob platfform yn cael ei wneud yn realiti.