Part of the debate – Senedd Cymru am 7:10 pm ar 10 Tachwedd 2020.
Diolch, Llywydd. Rwy'n siarad am yr holl welliannau yn y grŵp hwn, sydd wedi eu cyflwyno yn dilyn trafodaethau gyda sefydliadau allanol, sydd, fel minnau, yn wastadol siomedig o ran y diffyg amrywiaeth mewn llywodraeth leol. Yng Nghyfnod 2 cyflwynais nifer o welliannau treiddgar ar gydraddoldeb ac amrywiaeth, ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gweithio gyda ni ar yr agenda hon, ni waeth sut aiff y bleidlais hon.
Gan droi at welliant penodol, ac wrth gwrs mae rhai ohonyn nhw yn ganlyniadol i'r prif rai, byddai gwelliant 162 yn caniatáu i gynghorwyr rannu swyddi. Mae trefniadau rhannu swyddi yn hollbwysig i wneud unrhyw swydd yn fwy hygyrch ac rydym yn gobeithio gweld rhywfaint o symud ar hyn yn y dyfodol agos.
Byddai gwelliant 163 yn ei gwneud yn ofynnol i bleidiau gwleidyddol cofrestredig ddarparu gwybodaeth am amrywiaeth eu hymgeiswyr yn ôl nodweddion gwarchodedig. Y gwir amdani yw bod gan bob un ohonom ni gyfrifoldeb i wella amrywiaeth mewn bywyd cyhoeddus a gall gofyniad bach i gyhoeddi gwybodaeth, sef y cyfan y mae'r gwelliant hwn yn ei wneud, fod yn gyfraniad cadarnhaol i'r nod pwysig hwn.
Byddai gwelliant 172 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddiweddaru eu cynlluniau cydraddoldeb strategol. Mae llawer ohonyn nhw, wrth gwrs, eisoes yn adolygu ac yn diweddaru'r cynlluniau hynny, ond byddai'r gwelliant hwn yn sicrhau y byddai'r rhai nad ydyn nhw'n ei ystyried yn flaenoriaeth yn gwneud hynny.
Unwaith eto, rwyf yn ailadrodd fy mod yn gobeithio y bydd y Gweinidog yn cytuno bod y rhain a nifer o welliannau a gyflwynais yng Nghyfnod 2 yn dangos i ba raddau y dylem ni fod yn diweddaru llywodraeth leol, ei harferion a chystadleuaeth, a gobeithio y gallwn ni barhau â'r ddadl hon eto ni waeth beth fydd canlyniad y bleidlais, ond rwy'n gobeithio yn fawr iawn y bydd yr Aelodau yn cefnogi'r gwelliant. Diolch yn fawr.