Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 10 Tachwedd 2020.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, byddwch wedi gweld y pryderon sydd gan rai arbenigwyr iechyd, ac sy'n peri gofid mawr, y gallai cynifer â 2,000 o bobl yng Nghymru farw o ganlyniad i oedi yn gysylltiedig â COVID. Mae'r Athro Tom Crosby o Rwydwaith Canser Cymru wedi dweud ei fod yn ofni bod tswnami digynsail o alw am wasanaethau canser ar y ffordd. Pa gamau brys y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r pryderon hyn sy'n peri gofid mawr?