Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 10 Tachwedd 2020.
Diolch, Prif Weinidog. Cefais gyfarfod yn ddiweddar â ColegauCymru i drafod pwysigrwydd y gronfa ffyniant gyffredin i ariannu sgiliau a phrentisiaethau yn y dyfodol, gan fod cyllid Ewropeaidd, fel y gwyddoch, wedi bod yn ysgogwr allweddol i'r agenda sgiliau. Ceir pryder gwirioneddol yn y sector y bydd yn fwyfwy anodd i golegau gefnogi economïau lleol a chymdeithas ehangach heb yr un faint o gyllid newydd ag a oedd ar gael o'r blaen. Rydym ni'n gwybod mai dim ond un enghraifft yw hon o'r niwed a achosir gan y diffyg eglurder ac ymrwymiad gan Weinidogion y DU. Prif Weinidog, a wnaiff eich Llywodraeth godi pryderon y sector addysg bellach yma yng Nghymru gyda'ch cymheiriaid ar lefel y DU?