Part of the debate – Senedd Cymru am 3:48 pm ar 10 Tachwedd 2020.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Ystyriodd Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad y rheoliadau hyn ar 2 Tachwedd, ac mae ein hadroddiad ar gael yn rhan o'r agenda. Rydym ni wedi nodi y gwneir y rheoliadau hyn gan y Trysorlys o dan Ran 1 o Ddeddf Canllawiau Ariannol a Hawliadau 2018, y rhoddodd y Senedd ei chydsyniad deddfwriaethol iddi ar 13 Chwefror 2018. Yn ystod y ddadl honno yn y Cyfarfod Llawn, dyma ddywedodd y Gweinidog Tai ac Adfywio ar y pryd am unrhyw gynllun seibiant dyledion yn y dyfodol:
Mae ffordd bell i fynd, ond byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU a'r Corff Canllawiau Ariannol Sengl, pan gaiff ei sefydlu, yn ogystal â darparwyr cyngor a rhanddeiliaid eraill i ddylanwadu ar ddatblygiad unrhyw gynllun a phenderfynu a yw'n diwallu anghenion Cymru.
O ystyried y datganiad hwn, gofynnwyd i Lywodraeth Cymru nodi sut y datblygwyd y cynllun seibiant dyledion i ddiwallu anghenion Cymru a chadarnhau a yw'n fodlon nad yw y rheoliadau hyn yn dod i rym yn gyffredinol tan 4 Mai y flwyddyn nesaf. Wrth ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru wrthym y bu swyddogion yn gweithio'n agos gyda'r Trysorlys ar y polisi ar gyfer y cynllun seibiant dyledion ers 2018. Yn ogystal, dywedwyd wrthym ni fod cyfreithwyr Llywodraeth Cymru wedi asesu'r rheoliadau drafft ar gyfer y cynllun, ac yn dilyn hynny diwygiodd Llywodraeth y DU y rheoliadau drafft i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â deddfwriaeth Cymru.
O ran dyddiad cychwyn y rheoliadau, mae ymateb Llywodraeth Cymru yn dangos y bu oedi cyn datblygu'r cynllun seibiant dyledion ar ddau achlysur, ffaith y bu yn siomedig yn ei chylch. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod llawer o waith heriol eto i'w wneud, ac er y byddai'n croesawu gweithredu'r cynllun cyn mis Mai y flwyddyn nesaf, mae hi o'r farn ei bod hi'n bwysicach gweithredu cynllun gyda phob amddiffyniad ar waith. O'r herwydd, mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn dyddiad gweithredu o 4 Mai 2021.
Fel pwyllgor, rydym yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno memorandwm cydsyniad deddfwriaethol gerbron y Senedd yn ogystal â Bil Gwasanaethau Ariannol y DU. Tynnaf sylw'r Aelodau at hyn y prynhawn yma gan fod y memorandwm hwnnw'n dangos mai'r rheoliadau sy'n cael eu hystyried heddiw yw rhan gyntaf y cynllun seibiant dyledion. Mae'r ail ran, y cynllun ad-dalu dyledion statudol, yn destun Bil Gwasanaethau Ariannol y DU. Bydd ein pwyllgor yn ystyried y memorandwm ar gyfer y Bil hwn yn ystod yr wythnosau nesaf, ac mae'n siŵr y gofynnir i'r Senedd ystyried cynnig cydsyniad yn y dyfodol agos. Diolch, Dirprwy Lywydd.