Part of the debate – Senedd Cymru am 4:58 pm ar 10 Tachwedd 2020.
Diolch, Llywydd. Polisi Llywodraeth Cymru, fel y darperir ar ei gyfer yn y Bil hwn, yw galluogi prif gynghorau i ddewis rhwng dwy system bleidleisio. Rwy'n ystyried bod cyflwyno'r dewis hwn yn cefnogi'r egwyddor o wneud penderfyniadau yn fwy lleol. Ni chredaf y bydd y dewis lleol hwn yn arwain at ddryswch: mae pob etholiad cyngor yn ddigwyddiad ar wahân. Bydd pleidleiswyr yn canolbwyntio ar yr etholiad ar gyfer eu cyngor nhw, ac nid ar yr un drws nesaf.
Ni allai prif gyngor wneud newid yn fympwyol. Yn gyntaf byddai'n rhaid iddo ymgynghori ag etholwyr lleol, cynghorau cymuned yn yr ardal ac unigolion eraill y mae o'r farn ei bod hi'n briodol ymgynghori â nhw, fel y'u cynhwysir yn adran 8, ac mae penderfyniad i newid y system bleidleisio yn ei gwneud hi'n ofynnol i o leiaf ddwy ran o dair o gyfanswm seddi cynghorwyr ar y cyngor bleidleisio o blaid. O'r herwydd, gwrthodaf welliannau 151 i 157, 176 a 177, sy'n cael yr effaith o orfodi pleidlais sengl drosglwyddadwy ar gyfer pob etholiad prif gyngor, drwy ddileu'r holl ddarpariaethau sy'n ymwneud â'r system fwyafrif syml, neu system y cyntaf i'r felin. Canlyniad hyn fyddai dim dewis i brif gynghorau.
Ni allaf ychwaith gefnogi gwelliannau 168 i 171, a'u heffaith gyfunol fyddai gorfodi pleidlais sengl drosglwyddadwy ar unrhyw brif gyngor newydd a grëwyd drwy uno neu ailstrwythuro. Mae hyn yn mynd yn groes i'r egwyddor y gall cynghorau ddewis eu system bleidleisio eu hunain. Yn yr un modd, mae arnaf ofn na allaf gefnogi gwelliannau 83, 88 i 91, 93, 95 i 98, 100 a 144 i 146. Mae'r gwelliannau hyn hefyd yn mynd yn groes i bolisi Llywodraeth Cymru, drwy ddileu'r darpariaethau sy'n darparu ar gyfer cyflwyno pleidlais sengl drosglwyddadwy fel un o ddwy system bleidleisio fydd ar gael i brif gynghorau. Byddai'r gwelliannau hyn yn cadw pethau fel y maen nhw, felly system y cyntaf i'r felin ar gyfer pob etholiad i brif gynghorau a dim dewis.
Galwaf ar Aelodau i wrthod gwelliant 137. Mae'r gwelliant hwn yn dileu adran 125, sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i reoliadau uno bennu pa un o'r ddwy system bleidleisio fydd yn berthnasol i'r cyngor a grëwyd gan yr uno. Mae angen cael darpariaeth o'r fath o ganlyniad i ddwy system bleidleisio.
Mae gwelliant 92 yn dileu'r gofyniad yn adran 8 o'r Bil i brif gyngor ymgynghori ar gynnig i newid ei system bleidleisio, tra bod gwelliant 94 mewn gwirionedd yn ei ddisodli gan ofyniad i gynnal refferendwm cyn newid system bleidleisio.
Mae prif gynghorau wedi rhoi cynnig ar systemau ar gyfer ymgynghori â phobl leol. Credaf, yn yr achos hwn, fod ymgynghori lleol yn ffordd fwy cost-effeithiol ac ystyriol o gloriannu safbwyntiau a cheisio barn na refferendwm lleol. Dyna pam y gwnaethom ni gynnwys yr union ddarpariaeth yn adran 8(5), y byddai gwelliant 92 yn ei dileu. Felly, gofynnaf i Aelodau wrthod gwelliannau 92 a 94. Am y rhesymau hyn, galwaf hefyd ar Aelodau i wrthod gwelliant 148, sy'n galluogi cynghorau i drefnu pleidlais leol i ganfod barn pobl leol am y cynigion i newid y system bleidleisio.
Yn olaf, gofynnaf i Aelodau gefnogi gwelliant 63. Mân ddiwygiad technegol yw hwn i fireinio'r cyfarwyddyd sy'n diffinio, o fewn y testun sy'n cael ei ddiwygio, ble y dylid mewnosod y gwelliant y darperir ar ei gyfer gan baragraff 18(b) o Atodlen 2 i'r Bil. Diolch.