Part of the debate – Senedd Cymru am 5:22 pm ar 10 Tachwedd 2020.
Diolch, Llywydd. Mae'n bleser cael arwain y ddadl ar y grŵp yma a chynnig yn ffurfiol y pedwar gwelliant sydd yn y grŵp—y pedwar ohonynt wedi cyflwyno yn fy enw i ar ran Plaid Cymru.
Pedwar gwelliant sydd i gyd mewn dwy set, sef gwelliannau 158 a 159, a gwelliannau 165 a 166. Bwriad y set gyntaf hon yw dileu'r anomali yn y gyfraith sy'n golygu nad ydy swyddogion canlyniadau etholiadau, na swyddogion canlyniadau gweithredol, yn destun unrhyw ddyletswyddau cyfreithiol yn ymwneud â'r Gymraeg, er bod eu gwaith yng ngolwg unrhyw berson cyffredin heb os yn rhan annatod o waith llywodraeth leol, sydd, wrth gwrs, yn destun disgwyliadau clir ar ddefnydd y Gymraeg o dan y safonau.
Bwriad yr ail set o welliannau hyn yw sicrhau y bydd unrhyw gyd-bwyllgorau corfforedig newydd fydd yn cael eu creu neu eu sefydlu yn agored i orfod cydymffurfio â safonau'r Gymraeg, so byddem ni'n gwneud yn siŵr eu bod nhw yn gorfod cydymffurfio o'r cychwyn cyntaf, ac y gall Comisiynydd y Gymraeg osod safonau arnynt. O'u derbyn, byddai'r gwelliannu yma yn ychwanegu swyddogion canlyniadau etholiadau, a'r cyd-bwyllgorau corfforedig arfaethedig, at yr Atodlenni ym Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, ac yn eu hychwanegi at y set fwyaf perthnasol o reoliadau yn yr achos yma, sef Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 1) 2015, a basiwyd gan y Senedd eisoes ar gyfer cyrff llywodraeth leol yn ôl yn 2015. Byddai hynny wedyn yn caniatáu i'r comisiynydd wneud ei waith o osod y safonau mwyaf addas.
Mae'r gwelliannau wedi eu drafftio yn union yr un dull sydd wedi'i dderbyn gan y Llywodraeth eisoes fel ffordd gwbl briodol o ychwanegu cyrff at y safonau. Cefnogodd y Llywodraeth y dull hwn o fanteisio ar ddarn o ddeddfwriaeth gynradd fel cerbyd i gyflwyno safonau yn achos Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) a'r Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru), gan arwain at ychwanegu yn gyntaf yr ombwdsmon a chorff llais y dinesydd at y safonau o ganlyniad i'r rheini. Mae'r Llywodraeth hefyd wedi sôn sawl gwaith yn ystod y Senedd hon am y cyfyngiadau ar ei chapasiti deddfwriaethol sy'n ei hatal rhag cyflwyno mwy o safonau a chreu rhagor o hawliau i ddefnyddwyr gwasanaethau a gweithwyr Cymraeg eu hiaith. Ond mae'r Llywodraeth yn dweud ei bod yn parhau yn uchelgais ganddi i weld mwy o gyrff yn dod yn destun safonau. Felly, mae cyfle ar blât i wneud hynny heddiw a dwi'n gobeithio fy mod i wedi gwneud cymwynas â chi fel Llywodraeth, drwy arbed tipyn o gapasiti'r Llywodraeth drwy gyflwyno'r safonau ar eich rhan. Edrychaf ymlaen at glywed y Gweinidog yn cadarnhau, felly, wrth ymateb i'r ddadl, y bydd y Llywodraeth yn gallu cefnogi'r gwelliannau hyn.
Mae'r angen i weithredu yn glir, ond peidiwch â chymryd fy ngair i am hynny—mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cyhoeddi sawl adroddiad ac wedi dweud wrth bwyllgorau'r Senedd yma ar sawl achlysur fod siaradwyr Cymraeg yn cael trafferth ceisio gwasanaethau syml, fel ffurflenni Cymraeg, yn y maes, a bod y Gymraeg yn aml yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg wrth gyhoeddi canlyniadau etholiadau. 'Annigonol' oedd y ddarpariaeth Gymraeg yn hyn o beth yn etholiadau'r Cynulliad 2016, yn ôl y comisiynydd ar y pryd. Dydy hi ddim yn gwneud dim synnwyr bod swyddogion canlyniadau etholiadau a swyddogion canlyniadau gweithredol, sydd, yn fwy aml na ddim, yn swyddogion awdurdodau lleol, yn defnyddio adnoddau awdurdodau lleol ac yn cael eu talu gan awdurdodau lleol, ond eu bod nhw ddim yn destun yr un dyletswyddau â'r awdurdod lleol hwnnw yn rhinwedd yr agwedd briodol hon o'u gwaith.
Mae'n bryder gan y comisiynydd hefyd, nifer y sefydliadau cenedlaethol o bwys newydd sydd wedi'u creu bod y Llywodraeth yn gosod safonau arnyn nhw am gryn amser. Mae rhai yn dal i aros i dderbyn sylw. Ni allwn ni ganiatáu i gydbwyllgorau corfforedig, o ystyried y rôl arwyddocaol y gallan nhw eu chwarae ym mywydau pobl Cymru, fod yn ychwanegiad diweddaraf at y rhestr hir o gyrff sydd wedi'u hanghofio. Awgrymodd y Gweinidog yn ystod Cyfnod 2 mai eu bwriad byddai defnyddio'r rheoliadau sy’n sefydlu pwyllgorau i osod gofynion o ran y Gymraeg arnyn nhw. Ond mae yna farc cwestiwn ynglŷn â gallu'r comisiynydd i osod a monitro safonau drwy’r dull hwnnw. Mae'r gwelliannau hyn yn ffordd fwy dymunol, clir a thaclus o gyflwyno'r nod hwnnw. Diolch.