Grŵp 3: Safonau’r Gymraeg (Gwelliannau 158, 159, 165, 166)

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:29 pm ar 10 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 5:29, 10 Tachwedd 2020

Oes. Diolch, Llywydd. Diolch i'r Gweinidog am hynny. Rwyf yn siomedig i glywed bod y Gweinidog yn dweud bod y Llywodraeth yn barod i gytuno mewn egwyddor, ond ddim yn fodlon gweithredu ar hyn yn syth yn y dull dŷn ni'n rhoi ymlaen. Ond rwyf yn clywed beth mae'n ei ddweud, ac mae rhai pethau yna, yn amlwg, rŷn ni yn croesawu.

Buaswn i jest yn dweud eto fod y Llywodraeth wedi derbyn y drafftio a'r dull union hwn o ychwanegu cyrff at y safonau yn y gorffennol, so does dim anhawster technegol, ac mae'n bolisi gan y Llywodraeth i ehangu'r safonau i ragor o gyrff er mwyn creu rhagor o gyfleoedd a hawliau i bobl Cymru fyw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg. Felly, does dim anghydweld polisi yma chwaith.

Mae'r Llywodraeth yn cwyno yn aml, efallai ddim jest nawr gan y Gweinidog, ond yn aml mae'r Llywodraeth yn cwyno am y diffyg capasiti, ac yn amlwg, mewn cyfnod o bandemig, bydd yna hyd yn oed fwy o ddiffyg capasiti deddfwriaethol i gyflwyno ragor o safonau. Ac mae yna hefyd, fel roeddwn i'n dweud yn fy araith o'r blaen, mae yna gyfle fan hyn, ar blât yma heddiw, i wneud hyn. Felly, y gwrthwyneb i ddiffyg capasiti ac adnodd sydd yma. Byddwn i'n erfyn arnoch chi felly, Weinidog, i ailystyried hyn. Os yw'r Llywodraeth yn gwrthod y gwelliannau yma heddiw, fel rydych chi wedi sôn byddwch chi'n gwneud, gall y Llywodraeth fyth ddefnyddio'r esgusodion diffyg capasiti ac adnodd pan ddaw hi at beidio cyflwyno safonau byth eto, ac fe fydd hi'n glir i bawb i weld mai diffyg brwdfrydedd mewn deddfu o blaid y Gymraeg ydy'r gwir broblem, a buaswn i ddim eisiau i bobl feddwl hynny.

So, i gloi, Llywydd, dwi eisiau gofyn i Aelodau i ystyried rhywbeth. Cawson ni ein hatgoffa dros y dyddiau diwethaf o'r gwaith arbennig y mae swyddogion canlyniadau etholiadau yn ei wneud yn enw democratiaeth, gan sicrhau bod y broses ddemocrataidd yn hygyrch i bawb, a bod pleidlais pawb yn cyfri yr un faint. Siarad ydw i, yn amlwg fanna, am America, ond yng Nghymru mae'n hollbwysig fod y Gymraeg yn cael ei phriod le ac y gall ein dinasyddion fod yn hyderus y bydd y gyfraith yn gwarantu, fel mater o hawl, nid disgresiwn y swyddog canlyniadau unigol, eu gallu i ymwneud â'r broses ddemocrataidd ac i ymwneud â chyrff democrataidd Cymru yn Gymraeg, yn enwedig wrth i ni ehangu'r etholfraint ac ehangu ein democratiaeth i'r genhedlaeth nesaf trwy'r Bil yma. Felly, roeddwn i'n meddwl bod hwn yn gyfle euraid. Mae gan Aelodau'r Senedd yma gyfle i sicrhau hyn heddiw. Dewch i ni gydio ynddo.