Part of the debate – Senedd Cymru am 5:40 pm ar 11 Tachwedd 2020.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Beth gwnaf i'n gyntaf yw rhoi ymrwymiad i bawb ohonoch chi sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl ac wedi codi nifer fawr o bwyntiau y gwnawn ni ymateb yn ysgrifenedig i chi yn briodol, yn hytrach na fy mod i'n mynd dros fy amser—rhyw bum munud sydd gen i, rwy'n credu, i ymyrryd yn y ddadl yma—os yw hwnna'n dderbyniol gennych chi, ac yna, gallwn ni barhau'r drafodaeth. Gaf i ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor, yn arbennig, am ei haraith agoriadol? Mi garwn i gadarnhau beth mae hi wedi'i ddweud—a dwi'n dweud hyn, wrth gwrs, gan fy mod i'n ymddangos ger bron y pwyllgor yma'n eithaf cyson—i ddiolch am y cwrteisi, bob amser, ac i ddiolch am y cydweithrediad.
Felly, fe wnaf i ymateb i un mater a gododd hi. Dwi wedi edrych eto dros y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd y bore yma gan Lywodraeth Cymru, ac mae'r gair 'ychwanegol', mae'n dda gennyf i ddweud, yn digwydd bedair gwaith yn y datganiad yna. Felly, mae'r cyllid o £10.7 miliwn yn ychwanegol at yr hyn rydyn ni wedi'i ddarparu'n barod. Ac mae hynny'n bwysig iawn i mi, fel Gweinidog â chyfrifoldeb yn y maes, ac mae'n bwysig iawn i'r Llywodraeth, oherwydd fel y dywedodd y Prif Weinidog mor glir wrth drafod materion rhyngwladol mewn datganiad blaenorol heddiw, mae diwylliant yn rhan allweddol o frand Cymru, ac mae cynnal a datblygu'r brand yna'n ddyletswydd arnon ni i gyd.
Mae yna nifer o gyfeiriadau caredig wedi'u gwneud hefyd am Cymru Greadigol. Roeddwn i'n falch iawn pan ges i gynnig y swydd yma dair blynedd yn ôl bod yna gyfle i mi weithredu ar argymhelliad a oedd yn rhan o faniffesto Llafur Cymru ac yn cael ei gefnogi ar draws y pleidiau, sef i greu Cymru Greadigol ac i'w weithredu fo a'i greu o fel corff a oedd yn lled annibynnol, ond o fewn y Llywodraeth, gan ddefnyddio, fel dwi wedi esbonio o'r blaen wrth y Senedd, y model yr oeddem ni wedi'i ddatblygu ar gyfer Cadw—eto, tair blynedd yn ôl—sef, ei fod o'n gorff gweithredol, a'i fod o'n lled annibynnol, gyda bwrdd a chadeirydd. Ac mae'r cyfarfod cyntaf wedi bod—yn anffodus, methais i i fynd i'r cyfarfod, oherwydd roedd yna argyfwng mewn twristiaeth mewn cyfarfod arall, ond dwi'n gobeithio y gallaf i ymuno â nhw yn eu cyfarfod nesaf. Mae yna fwrdd o bobl o ddoniau amrywiol o bob rhan o Gymru ac o gydbwysedd o safbwynt cefndir cenedligol ac ethnig, ac yn y blaen, ar y bwrdd yna. Mae hynny'n bwysig iawn i sicrhau bod y creadigrwydd sydd yn ein cymunedau ni i gyd yn cael ei adlewyrchu.
Nawr, mae pawb sydd wedi siarad wedi cyfeirio at effaith andwyol arbennig y pandemig ar y sector diwylliannol, ac mae'r hyn sydd wedi digwydd ar lawr gwlad, fel y gwyddom ni, wedi bod yn boenus i unigolion ac yn boenus i gynulleidfaoedd. Ac mae rhywun yn gofidio sut y gallwn ni adfer cynulleidfaoedd pan fydd hynny'n bosib. Ond, beth sydd yn ddiddorol iawn ac yn bwysig iawn i mi ydy bod yna ddatblygiadau sydd wedi dangos pa mor gydnerth ydy sefydliadau Cymru, hyd yn oed yn yr argyfwng hwn. Mae cyfeiriad wedi'i wneud yn bositif iawn tuag at y cyfryngau Cymreig. Os buodd yna erioed ddadl dros bwysigrwydd sicrhau cyfryngau lle mae pobl Cymru a newyddiadurwyr a sylwebwyr Cymru yn gallu siarad â chynulleidfaoedd Cymreig, dyma'r cyfnod sydd wedi dangos pwysigrwydd hynny.
Dwi'n nodi'r sylwadau a wnaed ynglŷn â Golwg360, ond dwi hefyd, fel y gŵyr rhai ohonoch chi'n sicr, erbyn hyn, wedi bod yn ystyried sut y gallwn ni ddatblygu trefn gyfatebol yn Saesneg, fel bod yna fframwaith newyddiadurol lled annibynnol ar gael yn yr iaith Saesneg, yn ogystal â beth sydd gyda ni yn Gymraeg—nid yn cael ei ariannu'n uniongyrchol gan y Llywodraeth, dwi'n boenus am hynny, ond yn cael ei gynnal o led braich.
Ac felly, dau bwynt arall roeddwn i eisiau ei wneud: rydyn ni'n gweithredu drwy'r gronfa adferiad diwylliannol, ac mi fydd y gronfa yma yn parhau i gefnogi gweithwyr llawrydd yn arbennig. Roedden ni'n sylweddoli ein bod ni ddim wedi darparu'n ddigonol tuag at y llif o weithwyr llawrydd, a gweithwyr llawrydd yn arbennig yma yng Nghaerdydd, oherwydd mae yna gynifer o bobl yn y dinasoedd sydd wedi bod yn gweithio yn llawrydd dros y blynyddoedd ac yn gweithio i bob math o gwmnïau yn yr holl sectorau gwahanol sydd yn rhan o'n diwylliant ni. Ac felly, dyna pam mae'r £3.5 miliwn wedi cael ei ychwanegu at y gronfa yma, cronfa gweithwyr llawrydd, er mwyn inni fynd â'r cyfanswm sydd wedi'i dargedu i weithwyr llawrydd i £10.5 miliwn. Ac mae'r cyllid yma, rydyn ni'n gobeithio, yn mynd i barhau i drawsnewid y sefyllfa.
A gaf i bwysleisio hefyd beth arall rydyn ni wedi ei wneud, sef sefydlu'r contract diwylliannol? Y mae hwn yn rhywbeth a oedd wedi bod ar fy meddwl i ers blynyddoedd, oherwydd mae'n bwysig iawn, os ydyn ni'n rhoi arian cyhoeddus, ein bod ni hefyd yn gallu disgwyl ymateb sydd yn greadigol am yr arian yna, nid jest cynnal sefydliadau, nid jest cynnal adeiladau, er mor bwysig ydy hynny, ond sicrhau bod gyda ni gontract diwylliannol sy'n gweithio ochr yn ochr â'r addewid i weithwyr llawrydd fel ein bod ni yn gallu gweld materion sydd yn cael eu trin yn greadigol yn tyfu allan o'r sefyllfa argyfyngus yma.
Rydyn ni'n gweithio’n agos gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig—