Part of the debate – Senedd Cymru am 6:20 pm ar 11 Tachwedd 2020.
O'r gorau. Felly, i grynhoi, Ddirprwy Lywydd, rydym yn gwneud cynnydd. Nid yw'r cyflymder yn foddhaol i mi; mae'n peri rhwystredigaeth fawr, oherwydd mae'r rhwystrau, yn ddiwylliannol ac yn ymarferol mewn pandemig, yn sylweddol, ond byddwn yn eich annog i'n dwyn i gyfrif, oherwydd mae angen inni barhau i fwrw ymlaen â hyn. Nid agenda ar gyfer y tymor byr fydd hon; bydd yn cymryd amser i drawsnewid y diwylliant. Ond mae'r camau yn yr adroddiad yn ddefnyddiol, a byddwn yn hapus i ddychwelyd at y pwnc gyda'r pwyllgor yn y dyfodol.