Part of the debate – Senedd Cymru am 7:17 pm ar 11 Tachwedd 2020.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan mewn dadl dda iawn ei hysbryd? Cafwyd rhai cyfraniadau rhagorol, ac fel bob amser, rhaid imi atgoffa fy hun fod y lluoedd arfog a'r cyfraniad a chwaraeant i'r Gymru fodern yn ogystal â'n hanes wedi bod yn gwbl aruthrol. Mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn clywed mwy, unwaith eto, am hanesion teuluol pobl, gan gynnwys y Gweinidog, gyda Dewyrth Tom; Angela Burns yn sôn am gyfraniad ei thad i wasanaeth milwrol; ac wrth gwrs y straeon a glywsom gan Mark Isherwood yn ei sylwadau agoriadol a'i sylwadau ar y ddadl, ac wrth gwrs, y gŵr bonheddig o Alun a Glannau Dyfrdwy—credaf mai Gilbert oedd ei enw. Ni chlywais ei gyfenw'n iawn; rwy'n credu mai Gilbert Butler ydoedd. Am ddyn hynod. Pobl a ymladdodd dros ein gwlad, pobl sydd wedi aberthu'n aruthrol, a rhai ohonynt yn dal gyda ni—arwyr y gallwn eu hanrhydeddu a dewis eu hanrhydeddu cymaint ag y gallwn—ond mae gormod ohonynt, yn anffodus, wedi syrthio ar faes y gad a ddim yma heddiw. A dyna pam ei bod hi'n bwysig ein bod, ar Ddiwrnod y Cadoediad eleni, yn eu cofio i gyd.
A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei hymateb hael i'r ddadl hefyd? Rwy'n credu y bu cydweithio rhagorol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU o ran hyrwyddo'r gefnogaeth i deulu'r lluoedd arfog ac i gyn-filwyr, ac fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog, roedd yn wych cael gwahoddiad i gymryd rhan yng ngrŵp arbenigol Llywodraeth Cymru. Eich rhagflaenydd, Alun Davies, cyn Weinidog y lluoedd arfog a gyfrannodd at y ddadl heddiw, a agorodd y cyfle i wneud hynny, a chredaf fod yr ymgysylltiad wedi bod yn wirioneddol gadarnhaol ac mae wedi dwyn manteision sylweddol i gymuned ein lluoedd arfog.
Gwyddom nad oes dim yn berffaith, mae gwelliannau y gallwn eu gwneud o hyd, ond cafwyd cyflawniadau aruthrol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig i'n cyn-filwyr gyda'r cyfrifoldebau datganoledig sydd gan Lywodraeth Cymru. Fe wnaethoch restru rhai ohonynt ychydig funudau'n ôl, gyda'r cerdyn rheilffordd i gyn-filwyr eleni, y fenter lle gwych i weithio, sy'n gwarantu cyfle i gyn-filwyr gael cyfweliad os oes ganddynt set sgiliau iawn ar gyfer swyddi yn y gwasanaeth sifil. Mae'r rhain yn ddatblygiadau cadarnhaol iawn, fel oedd yr arian ychwanegol a gyhoeddwyd gennych yn gynharach yn y flwyddyn ar gyfer swyddogion cyswllt ein lluoedd arfog, sy'n gwneud gwaith hollbwysig ar y rheng flaen yn ein hawdurdodau lleol a chan weithio gyda byrddau iechyd hefyd, i geisio cydgysylltu popeth. Felly, hoffwn dalu teyrnged i chi, fel Gweinidog y Llywodraeth, am y gwaith hwnnw. Wrth gwrs, mae mwy i'w wneud bob amser. Gwyddom fod angen mwy o gapasiti ar GIG Cymru i Gyn-filwyr er mwyn gallu cynyddu'r gwasanaethau y mae'n eu darparu i'n cyn-filwyr i gau'r bylchau yn yr amseroedd aros, a gwyddom fod angen gwneud gwaith pellach ar ochr Llywodraeth y DU hefyd, yn enwedig mewn perthynas â chynnal yr ôl troed milwrol yma yng Nghymru, sydd wedi bod dan bwysau dros y blynyddoedd wrth gwrs, ond rydym yn sefyll ysgwydd wrth ysgwydd gyda chi fel Llywodraeth Cymru yn ein hawydd i gynnal yr ôl troed milwrol hwnnw. Rydym yn cydnabod y budd economaidd sylweddol y mae Cymru'n ei gael ohono.
Mae'n ingol iawn heddiw ein bod yn dathlu—neu'n nodi, yn hytrach—can mlynedd ers claddu'r milwr dienw yn Westminster. Roedd yn ddiddorol clywed manylion llawn y stori honno gan Caroline Jones—stori deimladwy iawn, rwy'n credu, ynglŷn â sut y bu i'r corff hwnnw gael ei gladdu yn Eglwys Gadeiriol Westminster. A bydd stori ar ôl stori y gall pobl eu rhannu am unigolion a ddioddefodd, sy'n arwyr di-glod allan yno, ond roedd honno yn arbennig yn fy nghyffwrdd yn fawr.
Llongyfarchiadau i Sir Fynwy ar gyflawni ei statws cyflogwr aur yn y cynllun adnabod ar gyfer y lluoedd arfog. Rwy'n gobeithio y bydd llawer o awdurdodau lleol eraill yn dilyn yr arweiniad hwnnw, ac y bydd rhannau eraill o'r sector cyhoeddus yn dilyn yr arweiniad hwnnw hefyd. Rydych wedi gwneud gwaith rhagorol fel llysgennad i'r lluoedd arfog fel hyrwyddwr y lluoedd arfog, Laura, ac mae'n wych cael rhywun arall sydd â diddordeb mawr yn y lluoedd arfog yma yn Aelod o'r Senedd.
Wrth gloi, rwyf am droi at gyfraniad ein lluoedd arfog i'r ymateb i COVID yn y misoedd diwethaf. Cafodd Llywodraeth Cymru lawer iawn o gymorth logistaidd gan y lluoedd arfog yn ystod y pandemig. Rydym wedi'u gweld yn dosbarthu cyfarpar diogelu personol i wasanaethau rheng flaen. Rydym wedi eu gweld yn ymgynnull i gyflawni Ysbyty Calon y Ddraig. Rydym wedi'u gweld yn cefnogi ein gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru gyda'u hymateb, gan gynorthwyo i eni babi hyd yn oed ar un o'r galwadau hynny, yn ôl yr hyn a ddywedwyd wrthym yn ein grŵp trawsbleidiol. Ac wrth gwrs, maent wedi bod yn ymwneud yn helaeth â'r gwaith o gyflwyno a chynyddu'r capasiti profi hefyd. Felly, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn, wrth gloi, i ddiolch nid yn unig iddynt hwy am eu gwasanaeth dros ganrifoedd lawer i Gymru, ond hefyd am eu gwasanaeth heddiw, eu gwasanaeth byw ledled y wlad i'n cynorthwyo gyda'r argyfwng newydd hwn sydd yn ein plith, ac i dalu teyrnged i bob un ohonynt. Byddwn yn eich cofio, nid yn unig heddiw, ond ar bob adeg o'r flwyddyn, a byddwn yn parhau i wneud yr hyn a allwn ar sail drawsbleidiol yn y Senedd hon i sicrhau ein bod yn cynnal cyfamod pwysig y lluoedd arfog y mae pawb ohonom wedi ymrwymo iddo. Diolch.