10. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Y Lluoedd Arfog

Part of the debate – Senedd Cymru am 7:11 pm ar 11 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 7:11, 11 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch. Bob mis Tachwedd, wrth inni oedi ar gyfer Sul y Cofio a Diwrnod y Cadoediad, cawn ein hatgoffa o ddewrder ac aberth aruthrol ein lluoedd arfog blaenorol a phresennol ynghyd â'u teuluoedd. Mae'n dyst i'r gwasanaeth a'r aberth hwnnw fod y cynnig sydd ger ein bron wedi'i gyflwyno gyda chefnogaeth drawsbleidiol ac mae'n iawn ein bod gyda'n gilydd yn cofio ac yn cydnabod cymunedau ein lluoedd arfog yma heddiw ar Ddiwrnod y Cadoediad. Rwy'n falch o allu ymateb ar ran Llywodraeth Cymru ac mae'n fraint cael arwain ar ein gwaith i gefnogi'r rhai sydd wedi gwasanaethu ac sy'n parhau i wasanaethu yng Nghymru.

Cynhelir digwyddiadau'r cofio eleni o dan amgylchiadau gwahanol iawn. Ar adeg pan ofynnir i bawb yng Nghymru aberthu, cofiwn y cenedlaethau o'n blaenau a aberthodd—yr aberth eithaf yn achos llawer ohonynt—i'n cadw'n ddiogel. Arweiniodd y Lleng Brydeinig Frenhinol yr ymgyrch i annog pobl i roi pabi yn eu ffenestri ac ymuno â gweithred goffa gyfunol i nodi'r ddwy funud o ddistawrwydd ar garreg ein drws. Mae'r cyfryngau lleol a chenedlaethol wedi darlledu llawer o straeon gwych ynglŷn â sut y mae pobl a chymunedau wedi dod o hyd i ffyrdd diogel ac arloesol o gofio a pharhau i godi arian ar gyfer apêl y pabi.

Wrth fwrw golwg ar y cyfryngau cymdeithasol, bu bron i mi grio wrth weld ffigur cyfarwydd, mewn gorchudd wyneb, yn y cefndir mewn gwasanaeth llai na'r arfer yng Nghei Connah, y tu ôl i'r Aelod dros Alun a Glannau Dyfrdwy. A diolch i fy nghyd-Aelod am ei deyrnged garedig i fy hen ewythr Tommy Oldfield, sydd bellach yn 94 oed, ac yn un o gyn-filwyr balch glaniadau D-day. Manteisiodd llawer ohonom yma heddiw hefyd ar y cyfle i nodi'r achlysur yn briodol yn ein cymunedau ein hunain, a chefais y fraint o fynychu gwasanaeth bach gan gadw pellter cymdeithasol yn yr Wyddgrug, y tu allan i eglwys y Santes Fair, yn ogystal â thalu teyrnged yn ddiogel ac ar wahân yn Neuadd Treffynnon, y Fflint a Llaneurgain.

Ddirprwy Lywydd, mae'n iawn ein bod yn cofio maint y dinistr y gall rhyfel ei achosi. Roedd yr ail ryfel byd ei hun yn un o'r rhyfeloedd mwyaf angheuol mewn hanes, a chollodd llawer o pobl gyffredin eu bywydau hefyd. Ni ddylid anghofio aberth dewr y rhai a ymladdodd dros ein rhyddid ac a roddodd eu bywydau dros ein gwlad. Eleni, rydym wedi coffáu digwyddiadau arwyddocaol. Er eu bod efallai wedi'u nodi mewn ffordd wahanol oherwydd COVID-19, ni wnaeth leihau ein gwerthfawrogiad, ein cydnabyddiaeth a'n parch mewn unrhyw fodd.

Buom yn nodi 80 mlynedd ers brwydr Prydain a dathlwyd 75 mlynedd ers Diwrnod VE a Diwrnod VJ hefyd. Eleni cefais y fraint o siarad â chyn-filwyr o'r ail ryfel byd a chefais fy nghyffwrdd a fy ysbrydoli gan eu profiadau. Un o'r rhain oedd Mr Ronald Jones. Er gwaethaf anafiadau yn ystod yr ymosodiad ar Ffrainc, dychwelodd Mr Jones, cyn-sarjant o Ail Blatŵn 17eg Cwmni Maes y Peirianwyr Brenhinol, yn ddewr i faes y gad ar ddau achlysur gwahanol. Bydd llawer ohonom yn ymwybodol o straeon rhyfeddol eraill tebyg, ac rydym wedi clywed y rheini'n cael eu rhannu mewn cyfraniadau heddiw—atgofion y dylid eu rhannu a'u cadw am genedlaethau i ddod.

Rydym yn falch iawn o'r genhedlaeth hynod honno a ddaeth o'n blaenau, ac rwy'n falch o'r cyfan a wnawn heddiw yng Nghymru i gefnogi ein cyn-filwyr a chymuned ehangach y lluoedd arfog, gan gydweithio tuag at achos cyffredin, drwy grŵp arbenigol y lluoedd arfog a'r grŵp trawsbleidiol, gan fynd ati ar y cyd i roi llais i gymuned y lluoedd arfog.

Mae ein hadroddiad blynyddol yn nodi ehangder y cymorth sydd ar gael a'r cynnydd cydweithredol rydym wedi'i wneud, o'r gefnogaeth barhaus o £700,000 y flwyddyn i GIG Cymru i Gyn-filwyr; darparu £120,000 i fynd i'r afael ag unigrwydd ac unigedd cymdeithasol, cyllid sydd wedi galluogi Blesma i sefydlu eu prosiect brecinio a chynhwysiant digidol; hyrwyddo rhaglen Cefnogi Addysg Plant y Lluoedd Arfog, SSCE Cymru, a sicrhaodd gyllid ymddiriedolaeth y cyfamod mewn cydweithrediad â'r fyddin yng Nghymru ar gyfer pedwar swyddog cyswllt ysgolion rhanbarthol; ac roeddwn yn falch o allu cadarnhau £275,000 ychwanegol y flwyddyn am ddwy flynedd o 2021 ymlaen er mwyn galluogi swyddogion cyswllt rhagorol a gweithredol y lluoedd arfog i barhau yn eu rolau. Rydym yn parhau i gyfarfod a gweithio gyda'n rhanddeiliaid allweddol gyda'i gilydd, gan ystyried a datrys unrhyw faterion a nodir. Gan weithio ochr yn ochr â Llywodraeth y DU, rydym yn cefnogi ac yn cymryd rhan yn y cynllun cerdyn rheilffordd i gyn-filwyr, i alluogi cyn-filwyr ac aelodau o'u teuluoedd i deithio am bris gostyngol ar draws y DU.

Byddwn bob amser yn ymdrechu i fynd ymhellach yn ein cefnogaeth i'r rhai sydd wedi gwasanaethu ac sy'n parhau i wasanaethu a'u teuluoedd. Dyna pam y mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cyflwyno'r fenter Great Place to Work for Veterans o fewn y Llywodraeth yma, i gydnabod y sgiliau a'r galluoedd y mae cyn-filwyr yn eu cynnig i'r gweithle. Ar 30 Tachwedd, byddaf yn lansio ein dogfen 'Manteisio ar Dalent Filwrol'. Wedi'i chreu mewn partneriaeth â Llywodraeth yr Alban a Busnes yn y Gymuned Cymru, mae'r ddogfen wedi'i hanelu at wŷr a gwragedd priod a phartneriaid personél sy'n gwasanaethu ac mae'n nodi'r cymorth sydd ar gael i gyflogwyr. Sefydlwyd grwpiau gweithredu newydd i fynd i'r afael â materion yn ymwneud â chyflogaeth, pontio, gwybodaeth ac ymwybyddiaeth, a chyllid, yn dilyn ein hymarfer cwmpasu cynhwysfawr ar y lluoedd arfog. Mae'r grwpiau eisoes yn cyfarfod ac yn gwneud cynnydd ac yn cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau sy'n cefnogi cyn-filwyr a'u teuluoedd.

Er bod cyfnod y cofio yn naturiol yn cynnig cyfle i dalu teyrnged i wasanaeth blaenorol, byddai'n esgeulus ohonof i beidio â manteisio ar y cyfle heddiw i dalu teyrnged i aelodau presennol ein lluoedd arfog, sydd wedi camu i'r adwy eleni i gefnogi ein cymunedau a'n gwlad wrth inni wynebu heriau'r pandemig coronafeirws. Mae eu cymorth wedi bod yn ganolog i gefnogi ein GIG a'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau drwy ddarparu arbenigedd, gwybodaeth a sgiliau hanfodol i helpu i fynd i'r afael â COVID-19, ond gwyddom fod eu cyfraniad yn mynd yn llawer pellach, ac mae'r Llywodraeth hon yn cydnabod nid yn unig y rôl flaenllaw y mae ein lluoedd arfog yn ei chwarae, ond y manteision cymdeithasol ac economaidd ehangach a roddant i'r cymunedau lle maent wedi'u lleoli.

Rydym yn croesawu sefydlu Academi Heddwch Cymru, a dylem bob amser ymdrechu i sicrhau atebion heddychlon a chydnabod y rôl y mae ein lluoedd arfog wedi'i chwarae mewn gweithrediadau i gadw'r heddwch ledled y byd. Fel cynnydd, nid yw heddwch yn anochel. Rydym wedi dod mor bell wrth ddatblygu ein gwaith yn y maes hwn a thrwy barhau i weithio mewn partneriaeth yng Nghymru, byddwn yn adeiladu ar ein cefnogaeth i'r rhai sydd wedi gwasanaethu a'r rhai sy'n parhau i wasanaethu. Ni fyddwn yn anghofio, byddwn yn cofio, a byddwn bob amser yn cefnogi cymuned ein lluoedd arfog. Diolch yn fawr.