Busnesau yng Nghanol De Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 11 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 1:41, 11 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Ers COVID, mae gwasanaeth y Post Brenhinol yn y Rhondda wedi dirywio'n ddramatig. Mae etholwyr wedi adrodd am enghreifftiau fel llythyr dosbarth cyntaf yn cymryd wyth diwrnod i fynd o Porth i Pentre, a chwe diwrnod arall i fynd o Porth i Bontypridd. Dywedir wrth bobl am wneud apwyntiadau gyda'r swyddfa ddidoli yng Nghlydach os na allant aros am bost brys. Nawr, byddai hyn yn ddigon drwg ar adegau arferol, ond gyda niferoedd cynyddol o bobl yn gweithio gartref, a niferoedd cynyddol o bobl yn aros am apwyntiadau meddygol brys, mae’n amharu ar yr economi leol yn ogystal ag iechyd pobl. Ysgrifennais at y Post Brenhinol bron i fis yn ôl, yn gofyn iddynt am welliannau ac am esboniad, ac rwy'n dal i aros am ateb. Yng ngoleuni'r problemau y mae hyn yn eu hachosi i gynifer o bobl mewn cymaint o gymunedau yn Rhondda, beth y gall y Llywodraeth ei wneud i fynd i'r afael â'r mater hwn? A wnewch chi atgoffa'r Post Brenhinol am eu cyfrifoldebau a'u dyletswyddau i'n cymunedau ledled y wlad?