Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 11 Tachwedd 2020.
Mae'r pandemig, ynghyd â diwedd cyfnod pontio'r Undeb Ewropeaidd sydd ar fin digwydd, yn golygu ei bod yn gyfnod ansicr a phryderus iawn i fusnesau ledled gogledd Cymru. Y risg fwyaf i'r economi wrth gwrs yw peidio â gwneud digon yn ddigon buan, a dyna pam mai ein pecyn cymorth gwerth £1.7 biliwn yw'r mwyaf hael yn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig.