Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 11 Tachwedd 2020.
Weinidog, mae'n amlwg fod y coronafeirws wedi cael effaith ar fusnesau yng ngogledd-ddwyrain Cymru, ac rwyf wedi bod yn galw ar Lywodraeth y DU i gefnogi'r diwydiant yn yr ardal hon, ac mae eu methiant a'u harafwch i ymateb wedi costio mewn swyddi. Nawr, rhaid i Lywodraeth Cymru wneud popeth yn ei gallu i barhau i helpu. Ers cael fy ethol i'r Senedd hon, rwyf wedi bod yn gefnogwr mawr i ganolfan logisteg Heathrow, y gellid ei lleoli yng ngwaith dur Tata yn Shotton, a'r ardal ymchwil technoleg uwch a Phorth y Gogledd yn Sealand. A allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr ynglŷn â sut y gall Llywodraeth Cymru gefnogi prosiectau fel y rhain?