Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 11 Tachwedd 2020.
Diolch yn fawr, Lywydd. Os caf ddechrau drwy fynd â'r Gweinidog yn ôl at drydydd cam y gronfa cadernid economaidd—ac wrth gwrs, cawsom gyfle i'w holi am y sefyllfa, am orfod cau'n gynnar, yr wythnos diwethaf. Wrth gwrs, mae wythnos yn amser hir mewn gwleidyddiaeth medd yr hen air, a tybed a all y Gweinidog ddweud wrthym a yw'n gallu rhoi amserlen i ni bellach i nodi erbyn pryd y mae'n disgwyl i'w swyddogion fod wedi gallu prosesu'r holl geisiadau, er mwyn didoli, fel y mae eisoes wedi awgrymu yn ei ateb i Andrew R. T. Davies, y rhai a oedd mewn gwirionedd yn fwy addas ar gyfer cymorth brys a'r rhai sy'n gyfleoedd datblygu. Ac a yw'r Gweinidog yn disgwyl gallu ailagor y gronfa honno, neu o ystyried faint o geisiadau y mae eisoes wedi'u cael, a yw'n debygol y byddwn yn edrych mewn gwirionedd ar rownd arall ychydig yn ddiweddarach yn y flwyddyn?