Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 11 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 1:51, 11 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am hynny. Os caf fynd â ni i gyfeiriad ychydig yn wahanol, cyfeiriad mwy tymor canolig, roeddem yn ddiolchgar iawn am fewnbwn y Gweinidog i'n trafodaethau yn y pwyllgor y bore yma, ac un o'r meysydd a grybwyllwyd gennym oedd y ffordd—. Mae sefydliadau cydraddoldeb wedi bod yn dweud wrthym fel pwyllgor nad yw ystyriaethau cydraddoldeb, tegwch, bob amser wedi bod yn hawdd eu prif ffrydio mewn polisi datblygu economaidd. Cafwyd mentrau penodol, ond nid yw o reidrwydd wedi'i brif ffrydio.

Er mwyn canfod a fydd unrhyw fentrau yn y dyfodol yn gweithio, rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cydnabod bod angen system fonitro effeithiol, ond hefyd nad ydym am wneud hynny'n rhy fiwrocrataidd i fusnesau ymateb iddo. Felly, a gaf fi ofyn i'r Gweinidog y prynhawn yma a fydd yn ystyried gweithio gyda phartneriaid sy'n arbenigwyr yn y maes hwn, o ran cydraddoldeb rhywiol, cydraddoldeb hiliol a chan feddwl am y mudiadau anabledd hefyd, i weld a allwn gynhyrchu system syml lle bydd yn gallu monitro, ac felly bydd y rheini ohonom ar y pwyllgor priodol yn gallu monitro, a yw ei fwriadau o ran prif ffrydio agenda gwaith teg yn mynd i'r afael â rhai o'r gwahaniaethau rhwng dynion a menywod yn y farchnad swyddi, gwahaniaethau rhwng pobl dduon a phobl liw—? A yw'n bosibl, ac a wnaiff ystyried creu system wirioneddol gadarn a chlir nad yw'n rhy fiwrocrataidd ond lle gallwn weld beth sy'n digwydd pan ddaw'n fater o adeiladu nôl yn well yn hyn o beth?