Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 11 Tachwedd 2020.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Rwy'n cytuno â'ch safbwyntiau hefyd. Rwy'n credu ei bod yn well fod pleidiau'n gweithio gyda'i gilydd lle gall hynny ddigwydd. Roedd yn gwestiwn a ofynnais yr wythnos diwethaf, ac efallai eich bod yn iawn i ddweud bod hwn yn gwestiwn i'r Gweinidog cyllid, ond mae Prifysgol Caerdydd wedi amcangyfrif bod mwy na £1 biliwn yn parhau i fod heb ei ddyrannu o gyllidebau presennol Llywodraeth Cymru, felly rwy'n gobeithio'n fawr y gall Llywodraeth Cymru, naill ai chi'ch hun neu'r Gweinidog Cyllid, gadarnhau, os yw hyn yn wir, pam nad yw Llywodraeth Cymru'n ymrwymo'r arian hwn nawr i gefnogi busnesau yn hytrach na'i gadw’n ôl. Felly, rwy'n sylweddoli bod rhan o'r cwestiwn hwnnw i'r Gweinidog cyllid, ond yn sicr, byddwn yn croesawu eich persbectif chi o ran bod yr arian sydd gan Lywodraeth Cymru yn ei chronfeydd wrth gefn yn cael ei wario yn eich maes portffolio chi. Ac os ydych chi'n cytuno â hynny, ai dyma'r math o sgwrs y gallwn ddisgwyl i chi ei chael gyda'r Gweinidog cyllid?