Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 11 Tachwedd 2020.
Dwi'n croesawu'r arian sydd wedi cael ei roi i fusnesau ar draws y gogledd, ac yn fy etholaeth i, drwy wahanol gamau y gronfa cadernid economaidd. Ond dwi'n dal i weld busnesau sy'n methu â chael cymorth, er enghraifft oherwydd nad ydyn nhw wedi cofrestru ar gyfer treth ar werth neu dydyn nhw ddim yn cyflogi pobl drwy PAYE. Rŵan, dwi'n croesawu'r ffaith y bydd yna bedwerydd cam o'r gronfa cadernid economaidd, ond a all y Gweinidog ddweud wrthym ni pa asesiad y mae o am ei weld yn cael ei wneud o'r busnesau, neu'r sectorau o fusnesau, sydd wedi colli ar bob cyfle, mae'n ymddangos, i gael cymorth hyd yma? Ac a fydd yna fodd i newid y gofynion yn y dyfodol er mwyn i'r busnesau hynny allu gwneud cais am arian o'r rowndiau nesaf o gymorth sydd ar gael?