Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 11 Tachwedd 2020.
Diolch, Weinidog. Mae'r pandemig wedi difetha economi fy rhanbarth, ac er y gall y feirws ddinistrio bywydau, mae'r mesurau i'w reoli wedi dinistrio bywoliaeth pobl, ac mae gormod lawer o fy etholwyr wedi colli eu swyddi a'u busnesau. Rwy'n croesawu'r gefnogaeth a roddwyd gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, yn rhy aml o lawer, nid yw wedi bod yn ddigon.
Cysylltodd un o fy etholwyr â mi, ac roeddent yn gresynu at broses y grantiau datblygu busnes yng ngham 3 y gronfa cadernid economaidd. Treuliodd y cwmni ddyddiau'n paratoi cynllun busnes i’w gyflwyno gyda'u cais, cyn darganfod bod y ceisiadau wedi cau'n gynnar. Maent yn credu—ac rwy'n cytuno â hwy—y dylid prosesu ceisiadau yn ôl teilyngdod yn hytrach na'r cyntaf i'r felin. Felly, Weinidog, a wnewch chi ystyried mabwysiadu'r dull hwnnw o weithredu os gwelwch yn dda?