Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 11 Tachwedd 2020.
Credaf fod nifer y cynlluniau y mae'r Aelod wedi tynnu sylw atynt yn dangos pa mor awyddus yr ydym i fuddsoddi yn etholaeth yr Aelod—[Chwerthin.]—a pha mor awyddus yr ydym i fwrw ymlaen â’r cynlluniau hynny cyn gynted â phosibl.
O ran y cynllun newydd Pont ar Ddyfi ar yr A487, yn amlwg, mae COVID-19 wedi cael effaith, o ran ein gallu i ymgynghori â'r gymuned, ond mae fy swyddogion wedi bod yn gweithio'n agos gydag Alun Griffiths (Contractors) Limited i gwblhau a chytuno ar raglen adeiladu ddiwygiedig. Fel y dywedais, byddaf yn gwneud cyhoeddiad pellach ynglŷn â phryd y bydd y gwaith adeiladu yn cychwyn cyn bo hir iawn, ond rydym yn hynod o awyddus i fwrw ymlaen â hynny fel mater o frys, gan y gallai gyfrannu at yr adferiad ar ôl y coronafeirws—yr adferiad economaidd, hynny yw.
O ran y prosiectau eraill, a'r cyfyngiad lonydd ar yr A470 ar bont Caersŵs, mae'r Aelod yn llygad ei le y bu pryderon ynghylch cyflwr y bont, yn benodol cyflwr y tri bwa cerrig rydym yn edrych arnynt fel mater o frys. Rydym yn comisiynu dadansoddiad pellach o'r strwythur ar fyrder, a bydd y gwaith, wedi iddo gael ei gwblhau, yn llywio'r angen am unrhyw waith a mesurau diogelwch pellach.
Mae'r Aelod yn llygad ei le fod cynnig y bont droed yn dod yn ei flaen. Mae cam 2 yr arweiniad ar arfarnu trafnidiaeth Cymru wedi symud ymlaen er mwyn darparu digon o wybodaeth am yr opsiwn a ffafrir ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus. Wedi i fanylion amlinellol y groesfan gael eu cwblhau, a disgwylir i hynny gymryd tan ddiwedd eleni, byddwn mewn sefyllfa i ymgynghori â'r cyhoedd. Gallaf roi gwybod i’r Aelod, yn amlwg, y cysylltwyd â pherchnogion tir a bod eu sylwadau'n cael eu hystyried lle bynnag y bo hynny'n berthnasol. Ar ôl i mi gael canlyniadau'r ymgynghoriad cyhoeddus, gallaf ystyried y camau nesaf, a bydd cyhoeddiad yn cael ei wneud bryd hynny gyda manylion am y rhaglen wrth symud ymlaen.
Wedyn, o ran y gylchfan hefyd, mae arnaf ofn y bydd yn rhaid i mi ysgrifennu at yr Aelod ynglŷn â'r wybodaeth ddiweddaraf ar raglen waith cam 2 WelTAG ar gyfer cylchfan Caersŵs ar yr A470.