Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 11 Tachwedd 2020.
Mi fydd y Gweinidog yn ymwybodol, dwi'n siŵr, o'r camau sydd ar y gweill i wneud cais i gronfa syniadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn edrych ar y posibilrwydd o ailagor y llinell rhwng Bangor ac Afonwen. Nawr, mi fyddai hynny, wrth gwrs, yn cwblhau loop pwysig iawn o safbwynt y gogledd-orllewin, a gyda datblygiad posibl y llinell o Aberystwyth i Gaerfyrddin, mi fyddai hynny yn trawsnewid yr isadeiledd rheilffyrdd yng ngorllewin Cymru. Ond, a gaf i ofyn yn benodol ynglŷn â Bangor ac Afonwen, pa waith y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i helpu i wireddu'r uchelgais hwnnw a pha gefnogaeth, yn ymarferol ac mewn egwyddor, wrth gwrs, y mae'r Llywodraeth yn ei rhoi i'r cynllun?