Busnesau yng Ngorllewin De Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 11 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:13, 11 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, a gaf fi ddiolch i Dai Rees am ei gwestiwn a chydnabod gwerth yr economi ymwelwyr i'w etholaeth? Mae'n sylweddol iawn yn wir. Ledled Cymru, mae nifer y swyddi sy'n cael eu diogelu yn y sectorau twristiaeth a lletygarwch yn hynod bwysig ac yn darparu cyfleoedd i gymunedau ffynnu. Felly, yn ystod y cyfnod atal byr, roeddem yn pryderu ynglŷn â hyfywedd busnesau, a dyna pam y gwnaethom ddarparu £300 miliwn o gefnogaeth, gan gynnwys y £200 miliwn hanfodol hwnnw o gymorth grant i fusnesau dan gyfyngiadau symud. A gallaf hysbysu’r Aelod fod mwy na 1,000 o ddyfarniadau eisoes wedi'u gwneud fel rhan o'r gronfa i fusnesau dan gyfyngiadau symud yn ei etholaeth, ac mae hynny wedi diogelu 3,750 o swyddi—gyda llawer iawn ohonynt yn y sectorau twristiaeth a lletygarwch.