Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 11 Tachwedd 2020.
Gwnaf, wrth gwrs. Mae ein pecyn presennol o £200 miliwn o grantiau i fusnesau dan gyfyngiadau symud yn agored i geisiadau. Yn y cyfamser, rydym yn asesu ceisiadau a wnaed i’n cronfa gwerth £100 miliwn ar gyfer grantiau datblygu busnes, a oedd yn cynnwys £20 miliwn o gyllid wedi'i glustnodi ar gyfer busnesau twristiaeth a lletygarwch. Bwriad y gronfa honno yw cefnogi busnesau i ddatblygu prosiectau er mwyn iddynt allu ffynnu yn y tymor hwy.